MR. JOHN D. DAVIES. RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Ionawr 17eg, 1915, bu farw John D. Davies, Racine, Wisconsin.Mab oedd i David Davies, Garthfach, ger Abergynolwyn, Gogledd Cymru.
Daeth John i'r wlad hon tua 30 mlynedd yn ol. Gweithiwr cynffredin oedd y pryd hyny, ond drwy ymdrech dysgodd y grefft o saer coed fel y gallai gael cyflog uchel.
Gadawodd weddw a thri o blant mewn galar dwys ar ei ol.
Cafodd gladdedigaeth barchus, y Parch. Albert Burton yn gweinyddu.
H. W.