MISS. LAURA EVANS. RACINE, WISCONSIN.

Chwefror 8fed. - Yn ddiweddar, bu farw y chwaer, Miss Laura Evans, yn 74 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o'r Dyffryn Ardudwy, treuliodd ran helaeth o'i hoes yn Caernarfon, Gogledd Cymru.

Tua 13 mlynedd yn ol daeth i'r dref hon, yr oedd yn gymeriad addfwyn a charedig, yn aelod o'r eglwys Gymreig, ac yn ffyddlawn yn y gwahanol gyfarfodydd.

Cafodd angladd parchus, cynaliwyd gwasanaeth yn y Tabernacl, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John Davies.

Yr Arglwydd fyddo yn nodded i'w brawd yn ei drallod.
Gan R. D. Evans.

Y Drych ~ Chwefror 25ain, 1915.