MRS. SARAH EVANS. GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Boreu ddydd Mawrth, Chwefror 9fed, bu farw Mrs. Robert R. Evans (Corris) yn 74 mlwydd oed. Collodd ei phriod rai blynyddau yn ol, a gwnaeth ei chartref wedi hyny gyda'i merch a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. William L. Williams. Nid oedd wedi gallu bod allan nac yn y capel er's rhai misoedd, gan fod ei hiechyd wedi tori i lawr: fe svrthiodd i lawr grisiau'r llofft dro yn ol, yn nhy ei mab Thomas, ac ni fu er yr adeg hono byth yr un fath, effeithiodd yn arw arni.Yr oedd bob amser yn hynod dawel, ac yr oedd pawb yn boff ohoni, a hi yn gymydoges o'r iawn ryw. Byddai bob amser yn y moddion tra y gallodd, ond er wedi ei hamddifadu o'r cysegr nid oedd hyny wedi peri dim ar ei theimladau tuag at yr Hwn yr oedd ei ffydd a'i gobaith ynddo am fywvd tragwyddol.
Daeth i'r wlad hon o'r Nant, Penygroes. 23 mlvnedd yn ol gan ymsefydlu yn West Pawlet, Vermont, rhyw 12 mlynedd yn ol daeihant i Granville i fyw. Sarah Jones oedd ei henw morwynol a genedigol ydoedd o Bont y Grych Ddwr, Llanllyfni, Gogledd Cymru.
Hebrvngwyd ei gweddillion i fynwent West Pawlet y dydd Iau canlynol, pryd y gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch: W. Owen Williams.
Yn aros i alaru ar ei hol y mae pedwar o blant, sef Mrs. John J. Roberts a Robert Evans, West Pawlet, a Thomas R. Evans a Mrs. William L. Williams, Granville, New York.
Dymuna y plant ddiolch i bawb a fu yn gweini cysur i'w diweddar fam, ac am y cydymdeimlad a ddangosir tuag atynt, ac i'r Parch. W. O. Williams am ei ofal a'i garedigrwydd tuag ati yn ei gwaeledd, ac ar ddydd ei hangladd.
Dymunir ar i bapyrau Gogledd Cymru gofnodi yr uchod.
T. L. W.