MRS. ELLINOR JONES. FRIESLAND, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Foreu Sabboth, Ionawr 17eg, 1915, yn ei chartref yn Columbus, Wisconsin, bu farw Mrs. Ellenor Jones yn 77 mlwydd ac 8 mis oed, ar ol cystudd byr o chwech diwrnod, sef gweddw y diweddar John Jones (mason), fel ei gelwid, gynt o ardal Blaenycae, Randolph, Wisconsin.

Ganwyd Mrs. Jones yn ardal Penllyn, plwyf Llandeiniolen, sir Caernarfon, Mai 20fed, 1837. Hi oedd yr ieuengaf o deulu o chwech o blant; tri mab a thair merch, a anwyd i Rowland ac Ann Foulkes. Bu ei mam farw pan yr oedd yn lled ieuanc, ac ymfudodd i'r wlad yma gyda ei thad, un brawd a chwaer yn 1850, y rhai sydd wedi ei rhagflaenu i'r ochr draw er's llawer blwyddyn bellach.

Bu yn aros yn Pennsylvania am beth amser yn ardaloedd y chwareli, a bu yn gwasanaethu pan yn ieuanc am ychydig amser yn ninas New York. Mewn ychydig amser denwyd hi i'r gorllewin at rai o'r teulu oedd wedi symud i Dodge County, yn agos i Randolph, Wisconsin, gan sefydlu ar fferm.

Mewn ychydig o flynyddoedd, yn y flwyddyn 1856, ymbriododd Ellen a John Jones, yr hwn oedd yn dylyn ei alwedigaeth o saer maen, ac yr oedd yn cael ei adnabod wrth yr enw John Jones (Mason) i'w wahaniaethu oddiwrth Jonesiaid eraill.

Ar ol priodi, buont yn byw yn Fox Lake, Wisconsin, am beth amser. Yn fuan prynasant fferm yn ardal Blaenycae, a bu y ddau yn ddiwyd dros ben o dan lawer o anfanteision i gael cartref ac i fagu teulu mawr o blant, a lle y treuliasant y gweddill o'u hoes hyd farwolaeth ei anwyl briod tua saith mlynedd yn ol, pan y symudodd hi a'i merch Hannah oddi ar y fferm, a buont yn byw am ysbaid yn ninas Milwaukee, Wisconsin, gyda'r plant sydd yn byw yno. Yna symudodd i bentref Randolph. Wisconsin, i fyw.

Oddi yno drachefn symudodd i Columbus, Wisconsin, i fyw lle y treuliodd weddill o'i hoes.

Yr oedd wedi bod yn aelod ffyddlon yn eglwys y M. C. ar hyd ei hoes, ac wedi dylyn moddion gras yn gyson trwy lawer anfanteision yn aml. Mae wedi gadael i alaru ar ei hol saith o blant, pedwar mab a thair merch: John R., Randolph, Wisconsin; David J., William R., Milwaukee, Wisconsin; Ellis J., Columbus, Wisconsin; Ann, priod Morris W. Williams; Ellenor J., priod Edward Jones, Milwaukee; a Miss Hannah Jones, Columbus, Wisconsin.

Cymerodd yr angladd le dydd Mawrth, Ionawr 19eg, a chymerwyd y corff o Columbus i Randolph, Wisconsin, gyda'r tren, a chladdwyd yn mynwent Blaenycae wrth ochr ei phriod.

Gwasanaethwyd yn y ty nos Lun gan y Parchn. John R. Jones a W. H. Davies. Cynaliwyd gwasanaeth yn addoldy y M. C., yn Randolph, Parch. F. T. Roberts yn gwasanaethu, ac hefyd ar lan y bedd.

Heddwch i'w llwch hyd ddydd yr adgyfodiad.
E. Jones.

Y Drych Mawrth 18fed 1915.


MRS. ELLEN JONES. FRIESLAND, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Mrs. Ellen Jones, widow of John Jones, died at her home at Columbus January 17th, aged nearly 78 years. Her maiden name was Ellen Foulkes. She was born in Pen Llyn Caernarvonshire, Wales.

Her husband died several years ago, while they were living on a farm north of Randolph, she then moved to the village of Randolph, where she remained a few years, coming to Columbus about three years ago where ashe has since resided.

She was the mother of seven children, four sons and three daughters, all of whom survive. They are John R. Jones of Randolph, William and David of Milwaukee, Ellis of Columbus, Mrs. Morris Williams and Mrs Edward Jones of Milwaukee and Miss Hannah Jones who remained with her mother at home.

Find a Grave.