MRS. JANE HUGHES GRIFFITHS. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Brydnawn dydd Sul, Mawrth 21, bu farw Mrs. Thomas Griffiths (Main) yn 49 mlwydd oed.Daeth i'r wlad hon rai blynyddau yn ol, hyhi yn ferch i Mr. a Mrs. Robert Jones, Fron Deg, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.
Bu yn wael am fisoedd hefo'r bright's disease, ond cafodd bob gofal allai braich o gnawd ei estyn iddi.
Daeth i Granville tua pedair blynedd yn ol, pan ymbriododd a Mr. Griffiths, ond ni chafodd fawr o gysur gan iddi gael ei chymeryd yn wael.
Cafodd angladd parchus a lluosog o'r ty, pryd y gwasanaethodd y Parch. B. G. Newton. Hefyd canodd y brawd John O. Davies yn hynod deimladwy, hoff emyn yr ymadawedig, sef ,"Fel y mvnot. Iesu anwyl,". Rhoddwyd ei gweddillion i orwedd yn mynwent West Pawlet, Vermont. Yn aros i alaru ar ei hoi y mae un ferch, sef Mrs. James A. Sears, Granville, a dwy chwaer, Mrs. Robert W. Davies, Fair Haven. Vermont, a Miss L. Jones, yr hon ddaeth yma o Ffestiniog i gymeryd gofal o'i chwaer; bydd Miss Jones yn myned yn ol tua diwedd yr haf.
Dymuna y teulu ddiolch o galon i bawb a fu yn foddion i weini'cysur i'r ymadawedig, ac hefyd i'r rhai hyny fu yn gwasanaethu ar ddvdd ei hangladd.
Dymunwn gyflwyno ein cydymdeimlad a hwy oll yn eu profedigaeth.