MRS. ELLEN MORRIS HUGHES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mawrth 8fed, 1915. Marwolaeth Cymraes o Garn, Dolbenmaen yn Faxton Hospital.Boreu dydd Iau diweddaf, bu farw Mrs. Evan Hughes, 29 Orchard Street, Utica. Ei henw morwynol oedd Ellin Morris, merch Mrs. Daniel Morris.
Mae ei thad wedi ei rhagflaenu er's tua pedair blynedd yn ol. Ganwyd hi tua 29 mlynedd yn ol yn y Garn.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1901 gyda'i rhieni, gan sefydlu yn yr ardal hon ac unodd mewn priodas gyda Evan Hughes.
Yr oedd yn wraig o gymeriad hollol ar ei phen ei hun. Heb law ei phriod gadawodd i alaru bedwar o blant bach, William, Robert, Elizabeth a Dorothy, ei mam, un brawd, John D Morris, a tair o chwiorydd, Anna J., Elizabeth, a Margaret Morris, oll o Utica, ac y mae yma gydymdeimlad mawr a'r teulu.
Dydd Sadwrn, y 6ed, cafodd gladdedigaeth barchus, gwasanaethwyd yn y ty a'r fynwent gan y Parch. Richard Hughes yn deimladwy a chanwyd amryw ddarnau gan Mr, John Quincy Hughes yn swynol iawn.
Yr archgludwyr oeddynt: Robert a Henry Hughes, Richard Williams Utica; Evan Jones, Vernon; Humphrey a Robert Jones, New York Mills.