MR. ROBERT HUGHES. GRANVILLE, NEW YORK.

Bore dydd Llun, Chwefror laf, ar ol ond byr gystudd, bu farw Robert Hughes yn 55 mlwydd oed.

Ganwyd yr ymadawedig yn Capel Curig, Gogledd Cymru, ond yr Mlaenau Ffestiniog y magwyd ef; bu yn aros am beth amser yn Spennymore Durham, Gogledd Lloegr, o'r lle hwn y daeth trosodd i'r wlad hon, tua tair blynedd-ar-ddeg a haner yn ol, gan ymsefydlu yma yn Granville.

Dyn tawel iawn oedd yr ymadawedig, ni byddai ganddo fawr ddim i ddweyd, ond gallai, ymgomio yn hwylus wedi dechreu, ond ni bvddai ganddo ddim i ddechreu ymddyddan.

Ni fyddai yn mynychu'r capel Cymreig o gwbl, eglwyswr mawr ydoedd, a byddai yn mynychu'r eglwys tra y bu y Parch. Mr. Morgan yma yn weinidog gyda hwynt, ac yn pregethu Cymraeg iddynt.

Hebryngwyd ei weddillion o gapel Peniel am 2 o'r gloch prydnwn y dydd Iau canlynol, a gwasanaethwvd gan Parchn. W. Owen Williams a Wm D. Thomas, Middle Granville.

Gadawodd i alaru ar ei ol briod a saith o blant sef William, David, Llewelyn, Perry, Ethel, Mrs. Thomas Dudding a Mrs. Henry Thomas, Granville.

Dymuna y teulu ddiolch i bawb am eu cymorth yn amser gwaeledd y diweddar frawd, ac hefyd am eu cydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth, ac hefyd i'r Parchn. William O. Williams a William D. Thomas am eu gwasanaeth dydd eu angladd a thrwy ei gystudd.
T. L. W.

Y Drych ~ Chwefror 11eg, 1915.


MR. ROBERT HUGHES. GRANVILLE, NEW YORK.

The death of Robert Hughes occurred at an early hour Monday morning, after a brief illness, at his home on Pacic street. Deceased had resided in Granville for a number of years, coming here from Blaenau Festiniog, North Wales.

He was a brother of the late Hugh G. Hughes (Eos Curig) and Mrs. Margaret Thomas of this village. He leaves a widow and several children to mourn his death, to whom sympathy is extended.

The funeral was held this (Thursday) afternoon from the Welsh C. M. church, the Rev. W. O. Williams, pastor, officiating. There were many relatives and friends from out of town present.

The Granville Sentinel ~ February 5th, 1915.