MR. ROBERT HUGHES. WYMORE, GAGE COUNTY, NEBRASKA.
Chwefror 22ain, bu farw yr hen gyfaill, Robert Hughes, yn 65 mlwydd oed.Un o sefydlwyr cyntaf yr ardal hon oedd ef, yn enedigol o tua Cynwyd, ger Corwen, Gogledd Cymru.
Daeth i'r wlad hon yn 1870, gan aros rai misoedd yn nhalaeth Michigan. o'r lle y daeth i Cambria, Wisconsin, lle bu'n byw am flynyddoedd, ac y priododd Miss Jane Evans.
Daeth i'r ardal hon yn 1879 gan setlo ar ffarm yn agos i Wymore, yr oedd ef fel y rhan fwyaf a ddaeth yma o leoedd eraill, a'i logell yn bur ysgafn, ond yr oedd erbyn ei ddiwedd yn gyfoethog o bethau amser. Yr oedd yn ddyn pur fedrus i drin y byd; bob amser yn ddiwyd, darbodus a chynil iawn.
Arosodd yn Omaha am beth amser ar ei ffordd yma o Cambria, lle y bu yn gweithio yn nghynauaf y rhew, a disgynodd talp o rew ar ei droed a'i gwnaeth ef yn gripil hyd y diwedd. Cafodd lawer o boen oddiwrtho, a methodd y meddygon goreu a'i wella, ond cael ergyd neu ddwy o'r parlys a wnaeth fyned a'i fywyd yn y diwedd.
Yr oedd ef a Mrs. Hughes wedi gadael y fferm ac yn byw yn y dref er's blynyddoedd.
Claddwyd ef yn barchus yn mynwent Bethel ar y 24ain, Mr. Evans yn gweinyddu yn y ddwy iaith. Bu i Mr. a Mrs. Hughes naw o blant; wyth yn fyw yn awr, sef Mrs. Griffith Parry, John ac Evan Hughes o'r ardal hon; Mrs. Meyer Miles, Jewell County, Kansas; Arthur, yn yr hen gartref; Edwin a Stanley yn y barber business yn Wymore, a Mrs. Stanley Miles yn Wymore; oll yn Gymry heb ddim Dic Siona o'u cwmpas, y rhan fwyaf o honynt wedi eu codi yn yr eglwys Gymreig yma, lle mae eu mam yn aelod ffyddlon bob amser. Mae hi yn wael ei hiechyd er's tro. Dymunwn ei hadferiad yn fuan.
Gan O. M. Williams.
Y Drych ~ Mawrth 18fed, 1915.
MR. ROBERT HUGHES. WYMORE, GAGE COUNTY, NEBRASKA.
OLD SETTLER DIES.
Robert Hughes died at his home in this city Monday morning after a weeks sickness.He was born December 23rd, 1849, died Monday February 22nd, 1915. He was a native of North Wales and came to America when quite young, living for a few years at Cambria, Wisconsin.
In 1880 he moved to Nebraska, staying for about three months at Omaha, then proceeding to southern Gage county. He settled on a farm three miles south of Wymore, where he lived until about six years ago, when he retired from farming and moved to Wymore.
He leaves to mourn his loss a wife, five sons and three daughters, namely; Stanley, Edwin, John, Arthur and Evan Hughes; Mrs. Griffith Parry and Mrs. Stanley Miles of Wymore, Mrs. Meyer Miles of Jewel, Kansas.
The funeral services were held Wednesday morning, the pastor of the Welsh church officiating and the remains were laid to rest in the Welsh Cemetery.