MR. TOM PARRY HUGHES. WEST PAWLETT, VERMONT.
Oddeutu un ar ddeg o'r gloch bore dydd Mawrth. y 19eg cyfisol, wedi blin a maith gvstudd, yn agos i 11 mlynedd bu farw Tom Parry Hughes o'r dyfrglwyf (bright disease) yn 57 oed, gan adael i alaru briod, un ferch, Mrs Jennie Hughes Roberts, ac un mab Tom P. Hughes (Ieu.), ac un wyr Griffith, mab i Mrs. Roberts.Ganwyd yr ymadawedig yn Cwmyglo, sir Arfon, Gogledd Cymru, a magwyd ef gyda'i daid yn Waenfawr. Priododd gydag Ellen, merch i Mr. a Mrs. William Edwards, Foeldon.
Daethant i'r wlad hon 29 mlynedd yn ol, ac yn West Pawlet y treuliasant y blynyddau hyn, ac eithrio ychydig fuont yn Raceville, gerllaw Poultney.
Ganwyd iddynt bedwar o blant, y ddau a enwyd yn fyw. Yr oedd Tom Parry yn gymeriad dyddan, yn gwmniwr difyr, yn dra hyddysg mewn hanesyddiaeth, yn neillduol hanes rhyfeloedd o'r hanesion geir yn y Beibl hyd heddyw. Yr oedd ganddo gof cryf ryfeddol, ac yn feddianol ar lawer o nodweddion dymunol iawn. Yr oedd yn weithiwr caled iawn; bob amser yn Nghymru, ac yma, yn llwytho llechi i gerbydau y ffyrdd haiarn; buasai cael gwybod nifer y canoedd a lwythodd yn syndod.
Collodd ei iecbyd dros ddeg mlynedd yn ol ac ni fu yn alluog i weithio byth mwy. Bu achos ac ansawdd ei afechyd yn ddirgelwch i'r meddygon goreu; bu o flaen nifer o honynt yn Burlington, ac yn Albany, ond nis gallent benderfynu i sicrwydd ar yr afiechyd. Dyoddefodd ei gystudd yn dawel a dirwgnach, a diau ei fod wedi troi yn fendith i'w enaid.
Yr oedd wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod o eglwys yr A. er's tro, ac yn teimlo llawer o ddyddordeb mewn pethau mawr y bywyd diddarfod. Bu ei briod, y feroh a'r mab yn dra ffyddlon yn gweini arno trwy y blynyddau, fel y tystiai wrthyf nos Wener diweddaf, pan yn aros i fyny gydag ef. Yr oedd y gair da. roddai i'w wraig a'i blant am eu gofal o hono, a'r boen a'r drafferth gawsent gydag ef, a'i ddymuniad am gael gollyngdod yn dangos teimlad Gristionogol ac ysbryd diolchgar.
Cymerodd yr angladd le prydnawn Sadwrn, prvd y daearwyd ei weddillion yn mynwent West Pawlet. Yr oedd y tywydd yn hynod anffafriol, gwlaw mawr, ond cafodd gynhebrwng hardd; yr arch wedi ei gwisgo a blodau. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan gymdeithas y Coedwigwyr, o ba un yr oedd vn aelod a'r Parchn. W. O. Williams, a John T. Owens yn y capel ac wrth y bedd. O herwydd afiechyd methodd y Parch. B. G. Newton a bod yn bresenol.