MR. WILLIAM HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

ARDALOEDD Y CHWARELI.

Poultney, Vermont. Mawrth 13, 1915.
Ddydd Mercher diweddaf, dygwyddodd damwain alaethus yn chwarel Eureka, pryd y collodd dau eubywvdau, sef William Hughes, North Poultney, a Cornelius Burns, Fairhaven.

Ymddengys fod y ddau bron a gorphen rhoi powdwr mewn twll ac iddo ffrwydro gan eu taflu a'u malurio; ac yr oedd yr olwg arnynt yn galonrwygol i'r eithaf.

Bu yr olaf fyw am rai oriau mewn poenau dirfawr. Gadawodd Hughes briod a thri o blant alaru ar ei ol.

Cleddir ef heddyw yn mynwent Poultney.

Mae cydymdeimlad llwyraf yr ardaloedd hyn a'r teuluoedd trallodedig yn eu profedigaeth lem.

Y Drych ~ Mawrth 18fed, 1915.


MR. WILLIAM HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Mawrth 13eg. -Dydd Mercher, Mawrth l0fed, 1915, brawychwyd ein hardal gan y newydd fod damwain ddifrifol wedi cymeryd lle yn chwarel yr Eureka, pryd y cyfarfyddodd dau o'n cydwladwyr a'u diwedd mewn modd erchyll iawn, ac yr anafwyd un arall. Y ddau a laddwyd oeddynt, Cornelius Burns, Fair Haven, a William Hughes, North Poultney, a'r un anafwyd oedd George Crainoc, efe wedi cael diangfa gyfyng iawn.

Yr oedd y brawd William Hughes yn enedigol o Fethesda, Arfon, yn fab i Mr. a Mrs. Eben. Hughes, Wern Saeson, Llanllechid, ac yn briod gyda Maggie, merch Mr. a Mrs. John Roberts, o'r ardal yma, pa un sydd wedi ei gadael yn weddw gyda thri o fechgyn bach i ofalu am danynt.

Cymerodd ei gladdedigaeth le y Sadwrn (heddyw). Cynaliwyd y gwasanaeth yn nghapel Farnamsville, y Parchn. Roberts a J. D. Owen, Fair Haven, yn gwasanaethu.

Hawdd canfod oddiwrth y dyrfa fawr ddaeth yn nghvd i dalu y gymwynas olaf i'r brawd Hughes fod ganddo llawer iawn o gyfeillion. Claddwyd, ef yn Poultney, Vermont.

Mae ein cydymdeimlad ni fel ardalwyr yn gyffredinol a'r teulu yma sydd yn ein mysg. Hefyd a theuJu ein hymadawedig frawd yn Nghymru, y rhai sydd eto heb glywed y newydd trist. Hyderwn y bydd amgylchiad dwys fel hyn yn ein dwyn i sylweddoli mor fregus yw bywyd, ac y byddwn oll yn ymorphwys dan ei ewyllys Ef.
Gohebydd.

Y Drych ~ Mawrth 18fed, 1915.


MR. WILLIAM HUGHES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

MAN KILLED AS HE DUG FOR DYNAMITE.

William Hughes was killed, and Cornelius Burns injured Wednesday morning in an accident in slate quarries three miles south of Fair Haven. Hughes who was married and leaves a wife and five children, two boys and three girls, resided near the quarries and Burns resided in Fair Haven.

Hughes was put to work that morning digging in a pit in the quarries where a long time ago dynamite had been placed with the intentions of making the pit deeper. It was thought that the powder was of no use now and Hughes was told to dig it out with a spade. Burns was at work near him at the time. At 8:30 a.m., workmen in other parts of the quarries heard a terrific explosion and found Hughes several feet away dead and Burns in the pit unconsious.

It is thought by the workmen that the two men were thrown about forty feet in the air. Dr. Griffin of Fair Haven was summoned and he ordered the remains of Hughes removed to his late home. Burns was placed on a trolley car and taken to the Rutland hospital, where it was found that he had both legs and one arm broken, and that he had sustained cuts and bruises about the head and face. It is feared that his sight will be destroyed also.

A Hungarian laborer, who was employed near the pit, was thrown to the ground by the force of the explosion and sustained cuts around the head and face.

Granville Sentinel ~ March 12th, 1915.