MR. DAVID A. JONES. NEW HARTFORD, NEW YORK.

Gyda dwfn ofid yr hysbyswn farw y cyfaill David A. Jones, is-lywydd yr Utica Printing Co., foreu ddydd Llun diweddaf, Chwefror 15fed; cymerodd hyny le yn ei gartref ar Sanger Avenue, New Hartford; er ymdrech meddygon a gofal caredig ei deulu. Nid oedd mewn iechyd da yn ddiweddar, ond er yn cwyno, yr oedd yn abl i ddylyn ei orchwyl, a phrydnawn Sadwrn diweddaf galwodd yn swyddfa y cwmni, fel yr oedd y gair am ei farwolaeth sydyn yn ddychryn i lu o gyfeillion.

Ganwyd David A. Jones yn Nhowyn, sir Feirionydd, 42 mlynedd yn ol, a daeth gyda'i rieni drosodd i'r wlad hon pan yn blentyn ieuanc. Ymsefydlodd y teulu gyntaf yn New York gan aros yno dair blynedd, daethant wedi hyny i Utica, ac yn y cylch yma y treuliodd y gweddili o'i oes.

Dysgodd y grefft o pressman yn Swyddfa'r "Drych, a phan dderbyniwyd ef yn aelod o'r Undeb parhaodd i weithio yn yr un Swyddfa, a bu yno gyfnod o 24 mlynedd. Rhyw dair blynedd yn ol, aeth i bartneriaeth ag Evan W. Jones, dan yr enw Evan W. Jones and Co., ond yn ddiweddarach newidwyd yr enw i Utica Printing Co. Yr oedd Dave yn weithiwr da, diwyd a gonest, yn wr a fawr berchid gan y rhai a gyd-weithient ag ef.

Yr oedd yn aelod o eglwys Seion, New Hartford, ac o'r "Pressmen's Union."

Oddeutu 16 mlynedd yn ol, ymbriododd a Miss Catherine Jones, o New Hartford, yr hon gydag un ferch, Minnie, sydd wedi eu gadael yn unig ac mewn galar mawr. Hefyd, erys ei fam oedranus, Mrs. Henry Jones, Rome; tri brawd, Matthew, o Rome: Charles, o Ilion, a George, o Utica. Yr oedd brawd arall iddo, sef Edwin E., yr hwn a'i rhagflaenodd yn yr angeu, yn dal Pwydd bwysig yn argraffdy y Llywodraeth yn Washington, ac efe sefydlodd argraffdy y Llywodraeth yn Manilla.

Y Drych ~ Chwefror 18fed, 1915.