MR. JOHN M. JONES. GRANVILLE. VERMONT.

Granville, Vermont.
Drwg genyf orfod cofnodi hanes marwolaeth y brawd anwyl a thirion John M. Jones, yr hyn gymerodd le yn ei gartref boreu Sadwrn, Mawrth 20fed, yn 51 mlwydd a naw mis oed.

Chwith gan lawer fydd meddwl na chant byth ei gyfarfod ef mwyach yn y byd hwn. Er wedi colli ei rieni pan yn bur ieuanc, ymddiriedodd ei hun a'i enaid i'w Dduw ar hyd yr amser, ac fe welodd fod hyny wedi talu yn dda iddo pan ddaeth y diwedd, gan iddo farw mewn hapusrwydd: er wedi dioddef cystudd maith am amryw fisoedd, ffeindiodd fod y diwedd yn ymyl, a galwodd ei holl deulu ato, gan ddweyd wrthynt am ddylyn yr Iesu, ei bod wedi talu iddo ef wneyd hyny, gan ei fod yn dyfod yn brofiad iddo, a'i eiriau olaf bron ydoedd

"O fryniau Caersalem ceir gweled,
Holl daith yr anialwch i gyd," a.y.

Y mae hyn yn sicr o fod yn brofiad uchel pan ar wely marw, gobeithio mai dyna fydd profiad ei deulu eto, a phawb oll o ran hyny.

Daeth i'r wlad hon o Bryn Afon Terace. Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog, 28 mlynedd yn ol, gan ymsefvdlu yn y dyffryn hwn. Daeth ei gefnder Owen Howell Roberts. Slatington, Pennsylvania yma i'w angladd, ac anfonodd Mr. a Mrs. Evan Howell Roberts, Milwaukee, Wisconsin, flodeu hardd i'w rhoddi ar ei arch, ac mae y teulu yn dioich yn fawr iddynt am eu harddnngosiad o barch tuag at eu diweddar gefnder.

Cymerodd ei angladd le y dydd Mawrth canlynol am 2 o'r gloch yn nghapel Jerusalem (A.), lle yr oedd yn aelod ffyddlawn. Yr oedd tyrfa fawr iawn wedi dod yn nghvd i dalu y gymwynas olaf o barch iddo, pryd y, gwasanaethwyd gan y Parchn. Newton a Williams, Granville, a'r Parch. William D. Thomas, Middle Granville.

Yr oedd yn perthyn i dair cyfrinfa, sef y Coedwigwyr. Oddfellows, a'r Iforiaid, yr olaf yn gwasanaethu yn ei angladd, a llu mawr o honynt wedi troi allan i dalu y gymwynas olaf iddo.

Yn aros i alaru y golled ar ei ol y mae ei briod a phedwar o blant, sef Maggie, Ella, Morris a Thomas.

Dymuna y teulu ddiolch i bawb am eu caredigrwydd tuag atynt yn ystod gwaeledd a marwolaeth eu hanwyl briod a thad.

Y Drych ~ Ebrill 1af, 1915.