MR. JOHN O. JONES. ALLIANCE, OHIO.

MARWOLAETH GWR IEUANC O'R WAENFAWR.

New York, Mawrth laf, 1915.
Galwodd yr ysbeilydd beiddgar, sef angeu, heibio y brawd ieuanc, J. O. Jones, B. Sc., pan ar ei ffordd adref o Alliance, Ohio, i'r Waenfawr, Gogledd Cymru.

Diau y bydd yn drist iawn gan ei luaws gyfeillion yn yr Hen Wlad ac yn Alliance glywed fod ei ddiwedd wedi dod mor anamserol.

Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Owen H. Jones, Pant Afon, Waenfawr, Gogledd Cymru. Ganwyd ef yn Llanberis, Awst 22ain, 1889, felly ymadawodd a'r fuchedd hon yn 25 oed. Pan nad oedd ond ieuanc, symudodd ei rieni i ardal y Waenfawr i fyw. Yno ar aelwyd grefyddol, ac ar fronau yr Ysgol Sabbothol yr hyfforddwyd ef yn mhen ei ffordd.

Er yn ieuanc yr oedd ynddo awyddfryd cryf am addysg, a phrofodd ei lwyddiant yn y cyfeiriad hwn, ei fod yn alluog i yfed gwybodaeth. Wedi gorphen ei addysg foreuol yn Ysgol Elfenol y Waenfawr, enillodd yr ysgoloriaeth flaenaf i ysgol y sir, Caernarfon, a thra yno bu yn hynod lwyddianus yn ei holl efrydiaeth. Pasiodd y Welsh Matriculation i Brifysgol Cymru, ac enillodd ysgoloriaeth o £50 am dair blynedd. Daeth o Goleg Bangor wedi enill y radd o B. Sc., yr hyn a ddengys ei lwyddiant tra yno.

Daeth drosodd i'r wlad hon yn Rhagfyr, 1913, gan ymsefydlu yn Alliance, Ohio, lle yr arosai ei frawd, a'i fodryb, sef Mrs. R. M. Jones, 675 Morgan Avenue. Ni bu yno ond ychydig fisoedd cyn i'w iechyd dori i lawr. Yn Hydref diweddaf, cafodd anwyd trwm, ac effeithiodd ar ei ysgyfaint. Gwasanaethai ar y pryd fel chemist gyda'r American Steel Foundries.

Er siomiant dwys i'w gyfeillion, gwelwyd mai gwaethygu yr oedd, a chyngorodd y meddyg ef i fyned adref i'r Hen Wlad. Cychwynodd ef a'i frawd o Alliance, gan fwriadu hwylio ar y Cunard liner Franconia, Chwefror 6ed, ond er siomedigaeth lem iddynt, ofnai meddyg y llong nas gallai ddal y siwrnai. Cymerwyd ef i ysbyty St. Joseph, New York, y diwrnod hwnw, a dyoddefodd yn dawel ac amyneddgar hyd y diwedd, yr hyn a ddaeth nos Sul, Chwefror 21ain. Gofalwyd am dano yn dyner tra yno a bu amryw o Gymry'r ddinas yn ymweled ag ef, ac yn ei gysuro.

Daeth lluaws o Gymry yn nghyd nos Fercher, Chwefror 24ain, i Undertaking Parlors Mr. W. J. Mathews, 842 8th Avenue, am wyth o'r gloch, pryd yr aethpwyd drwy y gwasanaeth angladdol gan y Parch. J. Roberts, D. D., a chludwyd ei weddillion foreu dranoeth i fynwent Cypress Hill, Brooklyn.

Teimla brawd yr ymadawedlg yn wir ddiolchgar i Gymry New York, y rhai fuont mor garedig wrtho yn awr ei brofedigaeth. Yr oedd Mr. John O. Jones yn addurn i ieuenctyd ei oes, a'i rodiad hynaws a gweddaidd, tawel a diymhongar yn siarad yn uchel am dano fel un o gymeriad dilychwin a phur.

Yr oedd yn aelod o eglwys Dduw vn Nghroesywaen, ac wedi hyny yn Alliance, Ohio, ac wedi gwneyd ei ran yn ddiwyd fel Cristion gan rodio yn ffyrdd vr Arglwydd yn wastadol.

Heddwch i'w lwch hyd ganiad yr udgorn.
Gan John O. Jones., New York.

Y Drych Mawrth 11eg 1915.