MORRIS O. JONES. WEST WINFIELD, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.

Marw yn Buffalo.

Hysbysir am farwolaeth Morris O. Jones, brawd i Mrs. Caleb Davies, 1110 Summit Place, o'r ddinas hon, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau diweddaf, Ionawr 7fed, yn nghartref ei fab, Herbert E. Jones, yn Buffalo.

Ganwyd Mr. Jones yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, yn 1836, a daeth ei deulu i'r wlad hon pan nad oedd ef ond pedair oed, a sefydlasant yn Utica.

Aeth ef oddi yma yn mhen rhai blynyddoedd wedi hyny, a sefydlodd yn Porto Rico, a phan ddychwelodd yn ol i'r Talaethau, sefydlodd yn Buffalo.

Dygwyd ei weddillion i West Winfield i'w daearu, a chymerodd yr angladd le ddydd Llun o gartref ei frawd, John A. Jones. Heblaw ei frawd a'i chwaer a nodir uchod, gedy mewn galar, ei briod ac un mab yn Buffalo; dwy ferch yn New Cambria, Missouri, ac un chwaer, Mrs. Robert J. Owens, yn New York.

Y Drych ~ Ionawr 14eg 1915.