MR. ROBERT MICHAEL JONES. LAKE CRYSTAL, BLUE EARTH, MINNESOTA.
Dro yn ol gwelais gofiant byr yn y "Drych" am Robert M. Jones, Lake Crystal.Cododd i'm meddwl adgofion am y dyddiau gynt yn Wisconsin pan oedd ef yn llanc a minau yn blentyn. Ganwyd ef, medd y cofiant, Chwefror 1844, a chroesodd y mor pan yn ddeunaw mis oed.
Mab ydoedd i Michael Jones a'i wraig Shan, merch John Foulkes, Maesydref, Llanddeiniolen, Caernarfon. Yr oedd Robert yn ddeunaw mis yn Awst, 1845.
Tybed fod y teulu yn yr hwyl-long "Republic." Gadawodd hi Liverpool, Gorphenaf 17eg, dydd Iau, ac yr oedd yn cyraedd gyda ei llwyth porthladd Caerefrog Newydd Sadwrn, Awst 30ain, wedi mordaith o chwech wythnos a dau ddiwrnod. Yr oedd fy mam yn mhlith y teithwyr, ac er y byddai yn son yn aml am "deulu y llong," nid wyf yn cofio ei chlywed yn son am Michael Jones a'r teulu, er ei bod yn eu hadwaen yn dda yn yr Hen Wlad a'r wlad hon. Yr oedd y teulu yn Proscairon, Wisconsin, yn '46 os nad yn '45.
Yr oedd tir Michael dros y ffordd o dy fy nhad. Gorchuddid llawer o hono gan goed pan oeddwn i yn blentyn. Dywedai y rhai oedd yn cofio deg mlynedd cyn hyny, fod y coed mor fychain fel y gellid gweled ci yn rhedeg drwyddynt fel trwy gae gwenith. Yr oedd erw neu ddwy wedi eu clirio yn eu canol, a thy log adfaeledig ar hwnw yn fy amser i, ac ar ddiwrnod tesog ai y defaid i'r hen dy i gael cysgod rhag y gwres, ac wrth i ni fyned i mewn byddai y defaid yn picio allan drwy y ffenestri. Dyna gyflwr "Hen dy Maesdre" fel y'i gelwid pan oeddwn i yn hogyn bach troednoeth - ond dylaswn hysbysu fod Michael a'r teulu cyn hyny wedi symud i Rock Hill ryw wyth milldir i'r gogledd a pherchenogid y tir wedi hyny gan dad yr Anrh. Llywelyn Breese, Portage. Er bod y teulu wedi symud, deuai Robert yn aml yn ol i Proscairon; felly adwaenwn ef yn dda. Deuai ei fam hefyd, "Shan Jones, Maesdre," weithiau i weled fy mam. Yr oedd y ddwy yn enethod gyda'u gilydd yn Llaniolen, ond anaml iawn y gwelid Michael.
Tua '48 neu '49 sefydlwyd eglwys Proscairon. Dewiswyd tri blaenor, fy nhaid, Hugh Roberts; fy nhad, a Michael Jones; tri digon gwahanol. Prif waith fy nhaid oedd gofalu am gapel ac eglwys Proscairon. Yr oedd yn tynu at dri-ugain pan groesodd y mor. Ni feddyliodd erioed am "wneyd ei ffortiwn yn y 'Merica." Edrych yn mlaen am ddinas ac iddi sylfaeni yr oedd ef. Bu farw Chwefror, '65. Yr oedd fy nhad tua 35. Efe oedd yr unig flaenor "bydol" o'r tri. Yr oedd yn ddyn cryf gweithgar yn "arw am y ddau fyd," a daeth cyn diwedd ei oes i amgylchiadau gweddol gysurus. Adnabyddid ef y pryd hwnw fel "John Williams, y Saer;" wedi '56 neu '57, pan ddechreuodd bregethu adnabyddid ef yn Wisconsin fel "John Williams, Proscairon," ac yn y 20 mlynedd diweddaf o'i oes fel y "Parch. John D. Williams, Lime Springs." Yr oedd Michael Jones yn wahanol eto. Pan yn ieuanc cafodd ryw wasgfeuon fel yr anmharwyd ei nerth, fel nad oedd fawr o werth at y byd hwn. "Un di- afael iawn oedd Michael Jones" oedd gair fy nhad am dano. "Beth ddaethai o'r byd yma," meddai un yn yr hen amser, "pe buasai pawb fel Michael Jones. Fuasai yma ddim byd o honi hi, neu ddim pobl ynddo fo beth bynag."
Ond yr oedd Michael yn un hynod o dda yn y seiat, ac yn un o'r gweddiwyr goreu yn yr holl gylchoedd. Sonia yr hen bobl hyd heddyw - y dyrnaid sydd o honynt sydd yn cofio 70 mlynedd yn ol, am weddiau Michael Jones. Sieryd y ffaith iddynt ddewis Michael Jones yn dda am eglwys Proscairon yn y cyfnod hwnw - temtasiwn eglwysi y wlad hon heddyw yw dewis blaenor, yn enwedig gyda'r Yankees, yn dipyn o financier, er mwyn iddo helpu tipyn i lanw y drysorfa, ond nid oedd yn Michael ddim o'r rhinwedd hwn, ond yr oedd ganddo bethau gwell.
Wedi deg mlynedd yn Proscairon, a rhyw ddeg mlynedd yn Rock Hill, symudodd y teulu tua '65 neu '66 i Minnesota Lake, 30 milldir i'r dehau o Mankato, ac aeth Robert yn lled fuan i Middle Granville, New York, lle yr oedd Hugh Dafydd Foulk, cefnder ei fam, ac yno y bu hyd tua '73 pryd y daeth i Blue Earth County, Minnesota. Mae yr hen bererinion wedi myned, a'r plant yn disgyn y naill ar ol y llall. Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd.
Golwg hardd fydd gwel'd y teulu
Rhai fu yn y llwch yn llechu
Wedi dyfod o bob trallod
'Nawr mewn hedd ar urdd eu Priod.
Fe geir clywed sain seraphiaid
A goreugor glan gerubiaid,
Ond mwy melus a mwy hyfryd
Fyth fydd can y rhai a olchwyd.
Fe fydd meibion hyna'r Duwdod -
O mor syn! mewn dirfawr syndod
Pan yn gwrando per ganiadau
Seion Duw ar ol dod adreu.
Fe fydd bechgyn y chwech aden
Yn y llu yn llon a llawen,
Wedi peidio a'u telynau,
Pan yn gwrando teulu'r doniau
O! mor hardd fydd eu gwedd.