MR. GRIFFITH D. LLOYD. WARRIOR RUN, PENNSYLVANIA.
Taflwyd y gymydogaeth uchod i syndod boreu ddydd Mawrth, Ionawr y 19eg, gan y newydd am farwolaeth sydyn Griffith D. Lloyd, un o'r preswylwyr hynaf a mwyaf adnabyddus a chymeradwy yn yr ardal. Rhyw ugain mynyd oedd pan aeth o'r ty nad oeddynt yn dyfod a'i gorph marwol yn ol.Ganwyd Griffith Lloyd yn Dinas Mawddwy, sir Feirionydd, Ebrill 6ed, 1842. Enwau ei rieni oeddynt David a Gaynor Lloyd. Pan yn lled ieuanc aeth ef i ardal Corris i ddysgu yr alwedigaeth o of, gweithiodd am flynyddau gydag un o'r enw Hugh Rowlands (Hugh y gof).
Yn 1871 ymfudodd i'r America ac ymsefydlodd yn Warrior Run, ac yma y treuliodd ei oes yn y wlad hon. Yn mhen rhyw dair blynedd ymbriododd a Miss Anne Davies, genedigol o Maesteg, Deheudir Cymru, yr hon a fu yn briod ofalus a thirion. Cawsont eu bendithio a deg o blant. Gweithiodd ei alwedigaeth o of yn y gwaith glo yn Warrior Run am dros i 40 mlynedd ac yr oedd pawb yn hoff o fynd ato i'r efail gan ei fod bob amser yn barod i wneyd cymwynas.
Yr oedd achos y Methodistiaid Calfinaidd newydd ei gychwyn yn office y gwaith a chan nad oedd yno mor enwad y cafodd ef ei fagu, sef y Wesleyaid, ymunodd gyda'r Methodistaid a bu yn ffyddlon gyda'r achos yn ei holl agweddau. Yr oedd yn flaenor er's blynyddau; ni bu ei ffyddlonach i'r moddion, nid yn unig ar y Sabboth ond moddianau wythnosol, byddai yn rhaid fod rhywbeth pwysig iawn yn galw cyn yr absenolai ei hun o'r capel, ac yr oedd wrth ei fodd pan yn ymddyddan am bethau ysbrydol.
Yr oedd yn athraw yn yr Ysgol Sul a chariai sel mawr dros yr Ysgol Sabbothol canys i dyna lle y dysgodd wybod am y trysorau cuddiedig, ac ni phallodd a chwilio yr Ysgrythyrau am y trysorau.
Yr oedd ganddo gof annghyffredin dysgodd lawer iawn o'r Beibl pan yn hogyn ac yr oedd yn cofio pregethau a darlithiau a glywodd pan yn y Dinas a Corris, ac yn y blynyddau olaf o'i oes yr oedd wrth ei fodd i gael ymgomio am yr hen bregethwyr oedd wedi ysgwyd Cymru.
Yr oedd ei breswylfod bob amser yn agored i weision yr Arglwydd, ac ni bu neb erioed yn fwy caredig nag ef a'i anwyl briod i unrhyw un a alwai yno. Yr oeddynt wedi agor y drws yn gynar yn eu bywyd i weision yr Arglwydd a bu yn agored tra y buont byw. Bu i'w briod ei ragfelanu yn yr angeu Ragfyr 1911, ac erbyn hyn dyma yntau wedi mynd, ac mae ei le yn wag.
Cymerodd ei angladd le brydnawn ddydd Gwener yr 22ain, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. H. W. Griffiths, Plymouth. Yr oedd yn bresenol y Parchn. canlynol: Henry Hughes, (A.), Plymouth: J. Hammond, Hyde Park, Scranton; R. R. Davies, Wilkes-Barre; T. L. Jones, South Wilkes-Barre; Owen Thomas, Buttonwood; Thomas, gweinidog yr M. E. Askam; J. R. Williams, North Scranton: Llewelyn, Lewistown; J. W. Matthews, o Gymru.
Siaradodd pob un o honynt, ac yr oeddynt oll yn dwyn tystiolaeth uchel i'w gymeriad fel dyn a Christion a bod ei fywyd tra ar y ddaear yn un y gellir edrych arno fel un a'i unig amcan oedd byw i'r Hwn a'i carodd ac a'i golchodd a'i waed ei Hun. Yr oedd hefyd yn perthyn i gymdeithas y Knights of Pythias yn un o Charter members y Warrior Lodge, No. 445, ac hefyd Askam Lodge, I. O. O. F., y rhai a drodd allan yn llu i dalu y gymwynas olaf i un a fu yn ffyddlon, yn enwedig gyda'r Knights, ac mae yn debyg y rheswm am hyny ydoedd mai hwy oedd wanaf.
Yr archgludwyr oeddynt Evan C. Jones, David J. Morris, John J. Williams, Hugh E. Hughes, Joseph Jervis a John E. Richards. Y blodeu gludwyr oeddynt W. F. Williams, Edward Morgan a T. M. Thomas.
Claddwyd ei weddillion yn mynwent Hanover Green. Gadawodd i alaru eu colled am dad ffvddlon a gofalus a mwyaf tyner Mrs. D. C. Evans, Lillian yr hon sydd yn wael er's 14eg mis; Margaret Ellen, Janet, Benjamin T., a Griffith M. Lloyd, ac un wyr John Lloyd Evans, heblaw mae tair o chwiorydd yn yr Hen Wlad, Mrs. Maylin, yn Llundain; Elizabeth yn Dinas Mawddwy ac Ellen yn Cadoxton, Barri, De Cymru, ac amryw o neiaint a nithod yn y wlad yma a'r Hen Wlad.
Cawd pregeth dda ac amserol o dan yr amgylchiad gan y Parch. H. Hughes, Plymouth, boreu y Sul ar y testyn "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw." Cyfeiriodd yn ei bregeth at yr ymadawedig fel un ag oedd wedi byw Crist, ac fod marw wedi troi yn elw iddo, er ei fod wedi ei symud o'n plith, eto nid yw wedi peidio a llefaru wrthym yn y bywyd a dreuliodd, ei gyngorion yn y cyfeillachau, ei weddiau yn y cyfarfodydd gweddi a'i barodrwydd i wneyd unrhyw beth dros y Meistr Mawr; maent yn llefaru o hyd.
Bydded i'r Arglwydd fod yn nawdd ac yn noddwr plant a'r perthynasau oll yn eu galar ar ol un oedd mor anwyl ganddynt oll. Heddwch fyddo i dy lwch ac y cawn eto gyfarfod lle na fydd rhaid ymado mwy.
J. D. Ll.