MRS. JANE EVANS PRITCHARD. BISBEE, COCHISE COUNTY, ARIZONA.
Synwyd pawb yn ddirfawr yn Bisbee y dydd o'r blaen pan aeth y newydd allan fod Mrs. Pritchard wedi marw. Dysgwyliwn weithiau am ddatodiad rhai gyda rhyw gymysg-deimlad o bryder a hyder, oblegid y cystuddir hwynt mor hir a chaled, a phan ddaw y diwedd ni fydd mor arteithiol ar y teimlad. Ond nid felly y daeth marwolaeth i Mrs. Pritchard. Daeth fel lleidr liw nos a symudodd o'n plith un oedd anwyl gan bawb o'i chydnabod. Anwyd oedd arni oedd barn pawb, a boreu y Sadwrn cyn ei marwolaeth yr oedd yn eistedd allan gan fawr fwynhau gwenan tesog yr haul. Ond y Sul canlynol, sef Mawrth y 7fed, gafaelodd y pneumonia ynddi yn dyn, a thua deg o'r gloch y noson hono ehedodd ei henaid at yr hwn a'i roes. Yr oedd symudiad disyfyd un oedd mor anhebgorol i ddedwyddwch llawer bron yn anhawdd i'w gredu.Ganwyd Mrs Pritchard yn Dolwyddelen, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, Tachwedd 23ain, 1845, a daeth i'r Unol Dalaethau gyda'i rhieni, John a Dorothy Evans pan ond pum mlwydd oed. Ymsefydlodd y teulu fel amaethwyr ar dir yn Marcy, ger Utica, New York, lle tyfodd yr ymadawedig i fyny yn brydferth yn mhob rhinwedd a gras i oedran gwraig.
Yn y flwyddyn 1869, cyfarfyddodd John G. Pritchard, ac yn 1873 yr ym briodasant. Aethant i fyw i Middle Granville, New York, ond ar ol blwyddyn yno symudasant i Rockland, Quebec, Canada, a thra yma y galwyd M. Pritchard i'r weinidogaeth Bresbyteraidd. Ni phrofodd gwraig erioed yn fwy hunanymroddol ac hunanaberthol nag y gwnaeth Mrs. Pritchard tra yn Rockland, oblegid am ddwy flynedd ymwadodd a llawer o gysuron a gweithiodd yn galed er cynorthwyo ei gwr i enill cwrs golegawl yn y St. Francis College, Quebec. Wedi gorphen o Mr. Pritchard ei gwrs yno, galwyd ef yn 1876 i weinidogaethu yn Val-Cartier, Quebec, ac yno y buont am dair blynedd; yna i San Sylvester a Leeds yn 1881, ac oddi yma i Danville yn yr un dalaeth yn 1884. Ac yn mhob un o'r meusydd hyn Mrs. Pritchard, fel Phebe gynt, "a fu gymorth i lawer," ac yn neillduol i'w gwr.
Yn 1887, galwyd Mr. Pritchard gan gwmni y Copper Queen i fod yn gaplan yn Bisbee, Arizona, ac yma eto nid arbedodd y wraig dda hon ar ddim er sicrhau pob llwyddiant i waith y weinidogaeth yn y camp garw ac anhygyrch, fel yr oedd yn y dyddiau hyny. Wedi rhoddi o Mr. Pritchard y weinidogaeth i fyny, daliodd ei wraig i weini cysur a phob cymwynas i'r hen a'r methiedig, y tlawd a'r dyeithr yn ei ffordd ddystaw ei hun.
Yn 1891, pan yr oedd y typhoid fever yn achosi braw a galar mawr drwy y dref, elai Mrs. Pritchard fel "angel trugaredd" o gwmpas gan ymweled a'r cystuddiedig a chynorthwyo pawb yn ol ei gallu. Ni anwyd plant iddi, ond bu yn "llawen fam plant" i ddau amddifaid bach, Arthur ac Ella. Bu farw y cyntaf wyth mlynedd yn ol pan yn 24ain oed. Credaf mai pobl fel Mrs. Pritchard oedd mewn golwg gan yr Iesu Anwyl pan y llefarodd: "Bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, a rhoisoch i mi ddiod: bum ddyeithr, a dygasoch fi gyda chwi: noeth a dilladasoch fi: bum glaf ac ymwelsoch a mi: bum yn ngharchar, a daethoch ataf. yn gymaint a'i wneuthur o honoch i un o'r rhai hyn, fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch."
Daliodd gysylltiad anrhydeddus a phrif gymdeithasau dyngarol Bisbee hyd ei marw. Mawrth l0fed, daeth tyrfa fawr yn nghyd, yn cynrychioli pob gradd a dosbarth mewn cymdeithas i dalu y gymwynas olaf i'r hyn oedd farwol o honi. Gweinyddwyd yn yr angladd gan gyfrinfa leol yr Eastern Star yn cael ei chynorthwyo gan y Parch. J. E. Fry a'r ysgrifenydd.
Claddwyd ei gweddillion yn yr Evergreen Cemetery, Bisbee. Gadawodd ar ei hol, nid i alaru eu colled, medd ei phriod, ond i lawenychu yn ei dyrchafiad i baradwys, y Parch. J. G. Pritchard, ei gwr; Mrs. Ella Wilson, Tuscon, merch mabwysiedig, a Mrs. Maggie Williams, Utica, New York, unig chwaer i'r ymadawedig yn fyw.
Heddwch i'w llwch hyd ganiad udgorn yr adgyfodiad.
Gan y Parch. J. R. Evans.