MR. RICHARD T. PRITCHARD. IXONIA, WISCONSIN.
Chwefror y 18fed, 1915, yn 87 mlwydd oed, bu farw Mr. Richard Pritchard, un o hen sefydlwyr yr ardal Gymreig yn Ixonia, Wisconsin, gan adael priod mewn galar dwys ar ei ol gyda dau fab, Robert a Richard, y rhai ydynt benau teuluoedd parchus a llwyddianus yn yr ardal, yr olaf ar yr hen gartref, lle hefyd y cartrefa ei fam.Y mae iddo un brawd a phedair chwaer yn fyw - John yn byw yn Virginia; Lydia, gweddw y diweddar James. W. Rice; Jane, priod Thomas J. Lewis, Milwaukee; Kate, priod Sienion Jones, Oconomowoc; ac Ellen, priod Ellis E. Humphrey, Ixonia.
Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni yn 1845 ac heb ymdroi ond ychydig amser yn Waukesha (Prairieville) lle yr oedd eisoes amryw deuluoedd Cymreig, sefydlwyd yn Ixonia, lle y treuliodd ein gwrthrych y 70 mlwydd gweddill o'i oes.
Yr oedd Mr. Pritchard yn briod darbodus, yn gymydog cymwynasgar a heddychlon, yn gyfaill pur ac yn ddyn o gymeriad uehel. Dangoswyd parch mawr i'w goffadwriaeth ar ddydd ei angladd Sadwrn, yr 20fed, canys trodd y gymydogaeth allan fel un gwr i hebrwng ei gorff i'r gladdfa — pob cened1 fel eu gilydd.
Gwasanaethwyd yn grefyddol gan y Parch. John E. Jones, South Side, Chicago, a'r Parch. McNeil, Oconomowoc. Canodd y cor amryw ddarnau yn effeithiol iawn.
Enw Duw Jacob a ddiffyno ei weddw yn ei galar.
J. E. J.