MR. DAVID ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.
Chwefror 13eg. Fel y crybwyllwyd yn y "Drych" diweddaf, bu farw y Cymro ieuanc, David Roberts, genedigol o Capel Curig, Gogledd Cymru, yn yr Albany City Hospital, am un o'r gloch brydnawn Sabboth diweddaf, yn ganlynol i weithred lawfeddygol ar yr appendicitis, yn 27 mlwydd oed.Daeth yma o Wardner, Idaho, tua dwy flynedd yn ol, bu yma am amryw fisoedd, ac aeth am dro i Gymru gan ddychwelyd y gwanwyn diweddaf. Bu yn gweithio yma hyd yr Hydref, pan yr aeth i'r Albany Business College am gwrs o addysg; wedi treulio pum mis o astudiaeth galed a llwyddianus, torwyd ef i lawr yn yr angeu, er dirfawr ofid i'w luaws cyfeilllon a'i lu edmygwyr.
Gan y bydd i'w gyfaill, y llenor galluog o Poultney, ysgrifenu adgofion am dano, ni bydd i ni ymhelaethu ond ychydig, er fod digon i'w ddweyd am y cymeriad prydferth, glan a dylanwadol feddai yr ymadawedig. Yr oedd yn aelod da, ond tawel, yn eglwys y M. C. ac yn aelod ffyddlon, llednais a galluog o'n dosbarth yn yr Ysgol Sul tra y bu yma. Er nad yn dylyn credoau y tadau yn hollol ar bynciau athrawiaethol a Beiblaidd, byddai bob amser yn dadleu ei farn mor fwyn a phwyllog, fel nas gellid lai na'i edmygu, pan heb fod o'r un tarn ar adegau.
Profodd ei fywyd tawel, tlws, a dylanwadol, mai nid yr hyn a gredwn sydd bwysicaf, ond ein bywyd, ein gweithredoedd dyddiol. Cael y rhai hyn i gydfyned ac yn efelychiad o fywyd yr Arglwydd Iesu Grist sydd yn rhoddi gwerth a dylanwad yn pin bywyd, ac yn gwneyd y byd yn well yn debycach i'r Nefoedd trwy ein byr ymdaith yma. Dyna y fath fywyd fu David Roberts fyw, tra yn ein plith, gan beri i bawb ei garu a'i edmygu. Ni wnaeth fawr drwst yn ei fywyd, ond yn naturiol dawel a llednais.
Lledodd ei wraidd mewn daear fras wrth afon gras y bywyd, nes oedd ei arogl wrth ei drin mor ber a gwin Lebanon. Rhaid tewi, gan ddweyd eto, fod West Pawlet yn well am ei fyr arosiad yma; a dyna dystiolaeth ei athraw a'i gydysgolheigion yn yr Albany Business College, lle yr oedd yn fawr ei barch, ac felly yma. Cysur mawr i'w rieni fydd cofio hyn.
Daearwyd ei weddillion yn mynwent West Pawlet, brydnawn dydd Mercher, Cymdeithas yr Odyddion, o ba un yr oedd yn aelod yn Wardner, Idaho, wedi noi allan yn gryno, ac yn cymeryd rhan wrth y bedd: y Parch. W. O. Williams yn y ty, y capel a glan y bedd. Rhoddodd ei weinidog deyrnged o barch uchel i'w gymeriad glan. Cafodd angladd parchus, a boneddigaidd.
Yr archgludwyr oeddynt Ednyfed Jones, o South Poultney, Morris J. Roberts, Thomas W. Edwards, John O. Edwards, Thomas J. Williams a John M. Jones. West Pawlet. Yr oedd y blodau hardd a phersawrus oedd yn gorchuddio ei arch yn nodweddiadol o'i fywyd, yn eu plith groes hardd gan ei ddosbarth yn yr Ysgol Sul, gobenydd gan yr I. O. O. F., a blodeudorch oddiwrth Cornell and Holt o'r Albany B. C., a blodau gan gwmni y chwarel y gweithiai tra yma, sef cwmni Robert J. Roberts, a llu o bersonau unigol eraill.
Mae yma gydymdeimlad cyffredinol a'i unig frawd sydd yma yn ei drallod, ac a'i rieni a'i chwaer yn Nghymru. Duw a fyddo yn bob nodded a chysur iddynt. Dymuna ei frawd John Roberts trwy y "Drych" gydnabod pawb mewn gwir ddiolchgarwch, am eu mawr ofal, eu caredigrwvdd, a'u geiriau cysurlawn yn y dydd blin iddo ef a'i frawd ymadawedig. Byrddiai tra yma gyda Mr. a Mrs. Ellis W. Edwards. Bu Mrs. Edwards i lawr yn Albany yn gweini arno hyd y diwedd. Gyda Mr. a Mrs. Griff. W. Edwards yr arosai yn Albany, a daethant i'r angladd. Buont oll yn dda iawn iddo.
Dychwelodd Griff W. Edwards a'i briod adref nos Wener. Drwg genym i'n cyfaill Owen W. Jones, Poultney, fethu dod i'r angladd o herwydd anafu ei droed. Mae Miss Deborah Jones wedi dychwelyd i Albany i ail afael yn ei dyledswyddau fel nyrs yn yr ysbyty, ar ol y salwch mawr a gafodd yn ddiweddar. Erbyn hyn mae yn teimlo ac yn edrych yn rhagorol. Aeth John B. Griffiths i Rome, New York, dvdd Mercher, er bod yn nghladdedigaeth gwraig ei gefnder - Mrs. John O. Jones. Mae cydnabod Mr. Jones yn cydymdeimlo yn fawr ag ef yn ei ddirfawr siom a cholled.
Y Drych ~ Chwefror 18fed, 1915.
MR. DAVID ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.
MARWOLAETH CYMRO IEUANC.
David Roberts, brodor o Capel Curig, Gogledd Cymru, yn Marw yn yr Ysbyty yn Albany, N. Y.
Fel canlyniad i ymosodiad llym o'i appendicitis, bu farw y Cymro ieuanc David Roberts, yn Albany City Hospital, Albany, New York, brydnawn Sul, Chwefror 7fed, 1915.Ganwyd ef yn y flwyddyn 1883, efe yn fab Dafydd ac Ellen Roberts, Capel Curig, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o dri o blant, chwaer iddo yn briod a James Griffiths, Bethesda, Gogledd Cymru, a John yn aros yn bresenol yn West Pawlet, Vermont. Gadawodd Dafydd ei gartref yn Nghymru Medi 1909, a chroesodd i Phoenix. B. C. Gweithiodd yno am ysbaid fer, ac yna gwynebodd ar Wardner, Idaho, yn nghwmni ei frawd a'i gyfeillion, John a Dafydd Jones, Capel Curig. Arosodd yn Wardner hyd Hydref 1912, pryd yr ymwelodd Alberta. Canada; dychwelodd oddi yno yn fuan i Phoenix, lle y gweithiodd eto rai misoedd, hyd ei ddychweliad i Kellogg, Idaho. Ni fu ei arosiad yn Kellogg ond byr y tro hwn, gan iddo yn nghwmni ei frawd John dalu ymweliad a Butte, Mont.
Ychydig wythnosau weithiodd yno gan iddo Gorphenaf 1913 gyfeirio ei gamrau i West Pawlet, Vermont. Cafodd yno (yn ol ei dystiolaeth ei hun) "Gartref oddi cartref" ar aelwyd gysurlawn Ellis Edwards, yntau o Capel Curig, ac fel yr oll o'i frodyr yn falch o'i groesawu. Tachwedd o'r un flwyddyn gadawodd West Pawlet, er talu ymweliad a'i deulu yn Nghymru, arosodd yno yn eu cwmni hyd Mawrth. 1914, pryd y dychwelodd i Pawlet gyda phenderfyniad o aberthu pobpeth a feddai ei ychwanegu at ei werth personol i'r byd.
Gweithiodd yma drachefn yn y chwarelau hyd Medi, ac aeth a'i galon yn llawn gobeithion mewn ymchwil am addysg i Albany Business College. Albany, New York.
Tystiolaeth pawb cyfarwydd a'r sefydliad uchod ydoedd, fod ei ymddygiadau ynghyd a'r gwaith gyflawnwyd ganddo tra yno wedi profi uwchlaw ameuaeth mai ysgolor llwvddianus ydoedd, a phwy a wyr beth fuasai hanes ei ddyfodol pe cawsai y fraint o sylweddoli ei freuddwydion cyfiawn.
Un o neillduolion amlycaf yr ymadawedig ydoedd hynawsedd ysbryd, a dvna ni gredwn gyfrifai am y ffaith iddo enill mor llwyr, edmygedd a chalon ei gydnabod lle bynag yr aethai. Pan yr ystyriwn gymaint o'r hagr a'r garw y daeth ein brawd i gyffyrddiad ef ar ei deithiau gorllewinol, cyfrifwn mai nid gorchest blentynaidd ar ei ran ydoedd cadw cymeriad mor iraidd a thlws. Er grymused dylanwad amgylchedd ar fywyd; erys bywyd glan ein cyfaill yn dystiolaeth ddiysgog i'r ffaith, fod yn aros, allu cryfach nag hyd yn nod ddvlanwad amgylchedd, sef y gallu i'w orchfygu a'i newid.
Cymeriad cydmarol ddystaw ydoedd Dafydd, gyda mwy o hono o'r golwg nag yn y golwg: rhaid ydoedd cloddio i ddyfnderoedd ei bersonoliaeth er dyfod o hyd iddo yn iawn. Gallwn ddywedyd am dano a hyny oddiar adnabyddiaeth bersonol ag ef, mai plentyn ei gyfnod ydoedd, wedi ei ddeall i fesur helaethach na'r cyffredin o honom, a gwariodd heb rwgnach yn helaeth o'i egnion er ceisio ateb ei ofynion.
Fel plentyn ei gyfnod dysgodd ofyn cwestiynau bywyd, meddianodd wirionedd yn eiddo personol, drwy ymladd yn galed a'i hunan. Gwyddai beth ydoedd adlewyrchu ar ffeithiau, ac ni lesteiriwyd ei ymdrechion gan ofn canlvniadau. Ei brofiad ar lawer adeg ydoedd, eiddo'r bardd Seisnig Tennyson. "I falter when I firmly trod," ond er y cyfan, ar bwys ei ffydd yn iawnder y Cread gallai ganu yn dawel dro arall eiriau'r un bardd -
"I can but trust that good shall fall
At last - far off - at last to all,
And every winter change to spring."
Bywyd a'i lond o'r dyfodol ydoedd eiddo ein cyfaill; meddai ymwybyddiaeth fyw o bosibiliaethau bywyd yr ochr hyn i'r bedd. Cymerai ddyddordeb neillduol mewn byw, a sylweddolodd ni gredwn gamp penaf bywyd, sef bod gydag ystyr i'w fodolaeth.
Dygwyd gweddillion ein cyfaill o Albany i West Pawlet, a dodwyd hwy i orphwys Mercher, y 10fed, yn mynwent yr ardal. Y dystiolaeth gyffredin ydoedd fod yr angladd yn un o'r rhai harddaf welwvd yn y pentref; gorchuddiwyd ei arch a blodau drudfawr, a'r dorf i gyd ni gredwn, drwy eu dagrau, heb neb yn grwgnach, yn darllen eu hystyr a'u gwerth. Mae'r ffaith i farwolaeth un ag ydoedd ond cydmarol ddyeithr yn yr ardal, ddenu cynifer gyda rhoddi bod i gymaint o'r dymunol ag a welwyd yn yr angladd, yn tystio uwchlaw ameuaeth parthed ei deilyngdod fel bod. Erys y ffaith hon ni a hyderwn yn ffynon o ba un y medr cyfoedion a pherthynasau ein hymadawedig dynu dwfr lawer er eu cysur a'u dyddanwch.
Ar ran Cymry y dyffryn yn nghyd a holl gyfeillion yr ymadawedig o for i for, dymunwn gyflwyno i'r teulu trallodus y cydymdeimlad llwyraf.
Gan O. W. Jones.
Y Drych ~ Mawrth 4ydd, 1915.
DAVID ROBERTS. WEST PAWLET, VERMONT.
Sad news was received here Sunday fron Albany City Hospital that David Roberts had died following an operation for appendicitis. He made his home here with Mr. and Mrs. Ellis Edwards.He had been at the Albany Business College taking a course since last September and was taken sick last week. He leaves to mourn his death his parents and sister in Capel Curig, North Wales and a brother, John Roberts, who resides here.
Much sympathy is extended to them.