MR. DAVID W. ROBERTS. WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Y mae genym y gorchwyl prudd y waith hon eto, o gofnodi hanes marwolaeth un o ffyddloniaid ein heglwys yn mherson y brawd anwyl Mr. David W. Roberts, yr hyn a gymerodd le yn hollol annysgwyliadwy i bawb o honom, nos Sadwrn. Ionawr 9ed o'r flwyddyn hon. Yr oedd yn cael ei flino er's bly- nyddoedd gan yr asthma, ac ar adegau byddai ei anadl yn bur gaeth, ond yr oedd yn mynd a dod yn ein plith hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth.Dydd Mawrth canlynol daeth tyrfa luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Er fod yr hin yn hynod o anffafriol, yr oedd ymweled y fath gynulleidfa wedi dod yn nghyd yn brawf eglur o'r parch a'r edmygedd oedd ein hanwyl frawd yn feddu yn syniadau ei gydweithwyr a'r ardal yn gyffredinol.
Gwasanaethwyd yn ei angladd gan ein hanwyl weinidog, Parch. W. C. Rowlands, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Richard Thomas, Bethesda (A). Yr oedd y ddwy gymdeithas "Y Golden Eagle" a'r "Red Men" o ba rai yr oedd yn aelod ffyddlon wedi troi allan yn gryno i'w angladd ac aethant drwy y ffurf arferol wrth lan y bedd.
Ganwyd Mr. Roberts yn Llangower, pentref ar lan Llyn Tegid, Bala, Gogledd Cymru, yn y flwyddyn 1846. Pan yn ddyn ieuanc symudodd i fyw i ardal Corris, a thra yna yn y flwyddyn 1868, ymbriododd a Miss Jane Whittington. Ganwyd iddynt luaws o blant ond nid oes ond un mab yn fyw, sef David W. Roberts, sydd ar hyn o bryd yn aros yn Harrisburg, Pennsylvania.
Mehefin, 1880, daeth ein gwrthrych a chyfaill iddo drosodd i'r wlad hon, a bu yn gweithio yn Shawnee, Ohio, am tua blwyddyn, ac aeth y ddau yn ol drachefn i Gymru, ond dychwelodd Mr. Roberts yn uniongyrchol a'i deulu gydag ef y tro hwn. Cofiaf yn dda, er nad oedd ond ieuanc iawn ar y pryd, ddiwrnod ei hymadawiad. Y mae yn debyg fod y ffaith fod ein rhieni a hwythau yn gymydogion agosaf yn byw dan yr un to am rai blynyddoedd yn cyfrif yn ddiameu am y dyddordeb mawr a gymerem ynddynt.
Bu arnom hiraeth calon ar eu hol. Wedi croesi drosodd i'r wlad hon yr ail waith, cawn iddo ef a'i deulu fyned ar eu hunion i Shawnee, ond deallwn na ddarfu iddynt aros yno ond tua dwy flynedd, oblegid cawn iddo yn flwyddyn 1883 ddod i fyw i'r fangre hon, lle y treuliodd weddill ei oes.
Yn y flwyddyn 1901, etholwyd ef yn flaenor yn eglwys West Bangor, pa swydd a lanwodd yn ffvddlawn ac ymroddgar hyd y diwedd. Yr oedd hefyd yn athraw llwyddianus o'r Ysgol Sul, ac yn aelod o fwrdd yr ymddiriedolwyr. Yr oedd Mr. Roberts yn ddyn a gerid gan bawb yn ddiwahaniaeth; yn gymeriad hynod o wylaidd er wedi ei fendithio a natur lawen yn tueddu at y digrifol ar adegau, un o nodweddion amlycaf ei gymeriad oedd boneddigeiddrwydd.
Dyma yn ol yr Apostol Iago un o nodau y "doethineb oddi uchod," ac yr oedd ein hanwyl frawd yn hynod yn y gras hwn. Ni chafodd ond ychydig iawn o fanteision addysgol a diameu ei fod yn teimlo oddiwrth hyn yn ystod ei holl fywyd, ond gwnaeth ddefnydd da o'i amser, yn enwedig wedi iddo ddod i West Bangor, i'r fath raddau nes meddu amgyffrediad helaeth a chlir o bynciau sylfaenol y grefydd Gristionogol. Dyna lle yr oedd hyfrydwch penaf ei fywyd, a'i bleser penaf oedd cael brawd o'r un tueddiadau ag ef yn gydymaith wrth fynd a dod i'r chwarel i ymddyddan, i holi, ac i geisio cael goleuni ar ddyrys bynciau trefn yr iachawdwriaeth, ac y mae yn ddiameu ei fod heddyw yn mhlith y dyrfa fawr, lan a buddugoliaethus.
Y mae cynifer a saith a deugain wedi cael eu galw oddi yma yn ystod y deng mlynedd diweddaf ac o'r rhai hyny chwech yn flaenoriaid pa rai na chafodd yr un eglwys ei breintio a'u gwell. Y mae hyn yn galw arnom ni sydd yn aros i fywyd o ymroddiad, i fwy o aberth ac ymgysegriad.
Gan Edward Lewis.