MRS. ELEANOR ANN ROBERTS. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
MARWOLAETH CYMRAES BARCHUS.
"Yn nghanol ein bywyd, yr ydym yn angeu," sydd wirionedd a ddygir yn fyw i'n meddwl wrth weled symud mor sydyn o'n plith rai o Gymry parchus y ddinas.Y ddiweddaf a gymeryd ymaith yw Mrs. Eleanor Ann Roberts, priod Evan Roberts, 107 Leah Street. Ddwy wythnos yn ol yr oedd yn wraig iach, heini a llon, heddyw rhaid yw tori bedd i dderbyn yr hyn sydd farwol o honi, a'i henaid a aeth at Dduw, yr Hwn a'i rhoes. Sydyn y symudiad, ac anhawdd i ni ei sylweddoli. Cafodd ymosodiad o'r parlys foreu Sul wythnos cynt a gwanhaodd hyd nes y daeth y terfyn foreu Llun, Ionawr 18fed.
Ganwyd yr ymadawedig yn Aberdyfi 56 mlynedd yn ol, hyhi yn ferch i Thomas Edward a Margaret Hughes. Pan nad oedd hi ond dwy flwydd oed, bu farw ei mam, a chymerwyd hi i'w magu gan ei thaid, yr enwog Thomas Hughes, Machynlleth, hen bregethwr hynod yn ei ddydd. Symudodd Thomas Hughes, a hithau gyda'r teulu i Ty'nllan, Penmorfa, ac oddi yno ar y 13eg o Ionawr, 1877 yr unwyd hi ag Evan Roberts mewn priodas, a bu yn gydmar bywyd ffyddlon. gynil a diwyd iddo.
Buont yn trigo am amryw flynyddoedd yn y Borth, Porthmadog, ac yn ddylynol am gyfnod o bum mlynedd yn Caedrain, Talywaenydd, Ffestiniog. Oddi yno y daethant fel teulu i America yn 1907, gan ymsefydlu yn Utica ysbaid dwy flynedd; oddiyma symudasant ar fferm i New Hartford, a thrachefn ryw dair blynedd yn ol i Utica. Yn y lleoedd y bu hi byw, adnabyddid hi fel chwaer grefyddol a hoffus, a llawenydd crefydd yn ei nodweddu.
Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah, ac yn ffyddlon i holl ranau y ty, y cyfarfod gweddi a'r seiat yn ogystal a'r bregeth. Yr oedd hefyd yn aelod o Gymdeithas y Chwiorydd ac yn weithgar gyda hono.
Mewn mawr alar ar ol mam ofalus a phriod tyner y mae ei phriod, Evan Roberts; a'r plant canlynol: Evan T. yn San Diego, California; Mrs. R. B. Williams, New Hartford. New York; Edward G. New Hartford; John H. o'r ddinas hon. a Misses May, Catherine a Margaret, yr oll o'r ddinas hon. Gedy hefyd ddau frawd ac un chwaer yn Lloegr, a phump o wyrion.
Cymer yr angladd le ddydd Iau nesaf, yn y ty am 2 o'r gloch (annghyhoedd) ac am 2.30 yn y capel yn gyhoeddus.