MRS. GRACE THOMAS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Gyda gofid yr ymgymerwn a'r gorchwyl o gofnodi marwolaeth un arall o famau yn Israel, sef Mrs. Owen Thomas, yn 66 mlwydd oed, yr hyn a gymerodd le yn hwyr nos Wener, Ionawr l5fed, ar ol cystudd o amryw flynyddau, er na bu yn hollol gyfyngedig i'r ty ond oddeutu blwyddyn, a'r tair wythnos diweddaf o'i hoes dyoddefodd boenau caled a hyny yn hollol dawel a dirwgnach. Yn lle cwyno yn herwydd ei chystuddio, diolchai yn barchus i bawb o'i chwmpas am bob gofal a charedigrwydd tuag ati, ac i'm tyb i ymddygodd yn berffaith fel gwir Gristion gan ymddiried ei hun yn hollol i ofal yr Hwn a ddilynodd ar hyd ei hoes gan ei arddel bob amser fel ei bugail a'i phrynwr. Yr oedd yn ym- wybodol bron i ben y daith a siaradai yn wastad gan ganmol ei Hiesu a chyngori y plant a'r wyrion i'w dderbyn yn Waredwr iddynt hwythau.Genedigol ydoedd yr ymadawedig o Bontllyfni, ger Clynnog, sir Gaernarfon, ac yn ferch i'r diweddar William Jones (Carn) ac y mae perthynasau iddi yn byw yn bresenol yn Penygroes, Llanllyfni, ac un brawd, John Jones, (joiner) yn Mhontllyfni. Dylynodd ei phriod i'r wlad hon amryw flynyddau yn ol gan sefydlu yma ac y mae'r teulu wedi byw yn yr un ty am oddeutu 30 mlynedd.
Ar gyfrif ei chymeriad dilychwin perchid Mrs. Thomas yn fawr gan yr holl ardal ac yn sicr fe fydd ei cholli yn loes i lawer un yn y cylch.
Gadawa i alaru am dani heblaw ei phriod, un ferch, Mrs. R G. Morris, a thri o feibion, John R. Thomas, Granviile; William O. Thomas, San Francisco, California, ¡ ac Arthur S. Thomas, Pittsfield, Masschusetts, a pha rai y cydymdeimlir yn eu profedigaeth.
Cymerodd yr angladd le brydnawn dydd Mawrth dylynol o gapel yr Annibynwyr, lle yr oedd yn aelod ffyddlawn tra parhaodd ei nerth. Daeth tyrfa luosog yn nghyd o wahanol bentrefi y dyffryn. Yn herwydd afiechyd y Parch. B. G. Newton, cymerwyd gofal y gwasanaeth gan y Parch. W. Owen Williams (M. C.) yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. William D. Thomas o Middle Granville. Siaradodd y ddau frawd yn hynod o bwrpasol a datganodd y cor a'r gynulleidfa yr emynau a ddewisodd yr ymadawedig ei hun. Dewisodd hefyd ei harchgludwyr, sef Robert W. Roberts, Owen Tudur Roberts, J. Spencer Roberts, Morris R. Roberts, Evan D. Davies, Granville, a W. Glyn Williams, Poultney.
Dygwyd y gweddillion i Middle Granville, lle y mae claddfa y teulu. Daeth y mab Arthur a'i briod i'r angladd a Mrs. Robert Davies a'i merch Catherine oedd hefyd yn bresenol o Amsterdam.
Gan fod cymaint o garedigrwydd wedi ei arddangos tuag at y teulu dymunant gydnabod eu diolchgarwch i bawb yn ddiwahaniaeth; hefyd i'r gweinidogion am eu gwasanaeth ac i'r rhai anfonodd y blodau.
Am gael myned adref ydoedd
Ei mawr hiraeth nos a dydd;
Yn ei Hiesu gwiw yr hunodd,
Ei hir gwsg yn dawel fydd.
Gan R. G. Morris.
Y Drych ~ Ionawr 28ain, 1915.
MRS. GRACE THOMAS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.
Mrs. Owen Thomas died Friday night after suffering for several years with Bright's Disease. She was sixty-six years of age and had been a resident of Granville about thirty-four years, having resided in The James McCormick tenement house for twenty-nine years. She was a native of Wales, immigrating with her children from Carnarvonshire to Granville.She is survived by her husband, a daughter, Mrs. R. G. Morris of Granville, and three sons, John R. Thomas of Granville, William O. Thomas of San Francisco, California, and Arthur L. Thomas of Pittsfield, Massachusetts, to whom much sympathy is extended.
The funeral took place Tuesday afternoon from the Welsh Congregational Church, and was largely attended. In the absence of Rev. Newton, the service was in charge of of Rev. W. O. Williams, who was assisted by Rev. William Thomas of Middle Granville, both of whom spoke words commending the christian character of the departed one. The hymns sung during the service were those of her own selection and the bearers were also chosen by herself. They were Robert W. Roberts, Owen T. Roberts, John S. Roberts, Morris R. Roberts, Evan D. Davies and W. Glyn Williams of Poultney.
There was a profusion od flowers including a pillow from four grandchildren, sheaf of wheat and a bouquet from the children, bouquets from Mr. and Mrs. M. J. Hayes, Mr. and Mrs. R. W. Roberts, Mr. and Mrs. J. R. Williams, Mr. and Mrs. Rowland T. Williams, Sunday School class, Mr. and Mrs. W. R. Lewis, Royal Neighbors, Jennie, Robert, Catherine and Margaret, children of Mr. and Mrs. Robert Davies of Amsterdam.
The burial was in Elmwood Cemetery, Middle Granville.
Am gael myned adref ydoedd
Ei mawr hiraeth nos a dydd;
Yn ei Hiesu gwiw yr hunodd,
Ei hir gwsg yn dawel fydd.