MR. JOHN J. THOMAS. POULTNEY, VERMONT.

Prydnawn ddoe bu farw yr hen gyfaill dyddan John J. Thomas yn 72 mlwydd oed.

Yr oedd wedi ei barlysu ers amser maith ac yn analluog i symud o hono ei hunan.

Yr oedd yn y wlad hon er yn bur ieuanc. Un o Bethesda, Arfon, ydoedd, brawd iddo yw y bardd Ben Thomas, Granville, New York.

Y Drych ~ Mawrth 18fed, 1915.