MR. ELIAS WILLIAMS. PICATONICA, WISCONSIN.
Nos Fercher, Ionawr 27ain, pan yn yr oedran aeddfed o 81 mlwydd, dau fis, a 25ain niwrnod, bu farw yr henafgwr Elias Williams, Picatonica, Wisconsin.Yr oedd yr ymadawedig yn fab i'r diweddar David Williams a'i wraig Catherine. Ganwyd ef Tachwedd 2ail, 1833, yn Conwy, Gogledd Cymru, ac yr oedd yn un o saith o blant.
Daeth i'r wlad hon gyda'i rieni yn y flwyddyn 1850; glaniasant yn New Orleans, a daethant i St. Louis mewn cwch, ac oddi yno i Debuque. Dwy flynedd yn ddiweddarach daethant i ardal Picatonica, Wisconsin, gan sefydlu ar fferm, lle y treuliasant y gweddill o'u hoes. Elias oedd yr olaf o'r teulu.
Claddwyd ei dad a'i fam, yn nghyd a'i frodyr a'i chwiorydd i gyd ond un, yn mynwent Carmel. Bu Hugh y mab hynaf farw yn Colwyn Bay, lle y claddwyd ef.
Cymerwyd Elias Williams yn wael tua dwy flynedd yn ol, ond daeth ychydig yn well ar ol hyny. Ganol mis Tachwedd diweddaf cymerwyd ef yn bur wael gan y dropsi a'r asthma, pryd yr analluogwyd ef i ofalu fawr am dano ei hun.
Dydd Sadwrn, Ionawr 23ain. gwaethygodd ei iechyd, ac am chwarter i chwech y dydd Mercher dylynol bu farw yn dawel. Bu yr ymadawedig yn trigianu yn y gymydogaeth hon am 63 o flynyddoedd. Yr oedd yn wr tawel a heddychol, ac yn nodedig o garedig a chymwynasgar fel cymydog. Pan yn iach arferai addoli yn Carmel. Am haner dydd y dydd Gwener dylynol, cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y ty, ac yn Carmel, pryd y gweinyddwyd gan weinidog y lle.
Rhoddwyd ei gorff i orphwys yn nghladdfa y teulu yn mynwent Carmel. Bu ei nai a'i briod, Mr. a Mrs. Hugh Williams, yn dyner iawn eu gofal am dano yn ei holl waeledd.
Daethant hwy yma o Denver, Colorado, ychydig flynyddoedd yn ol i ofalu am dano ef, ac i weini ar frawd a chwaer iddo oedd yn gystuddiol y pryd hwnw. Gwelsant gladdu dau ewythr a modryb er pan y maent yma; a mawr fu eu gofal am danynt.