MR. ROBERT D. WILLIAMS. SLATINGTON, LEHIGH, PENNSYLVANIA.
Collodd yr ardal hon un o'i dinasyddion poblogaidd pan y bu Robert D. Williams farw dan driniaeth lawfeddygol yn ysbyty Palmerton, Pennsylvania, nos Fefcher, Mawrth 3ydd.Mab ydoedd i Daniel Williams, Saer, Carneddi Road, Bethesda, Arfoh, Gogledd Cymru. Ganwyd ef Ebrill 3ydd, 1860. Daeth i'r wlad hon yn fachgen ieuanc tua 35 mlynedd yn ol, a threuliodd beth amser yn Bangor, Pennsylvania, ond yma y treuliodd y han fwyaf o'i oes. Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.
Bu yn briod ddwy waith; yr oedd ei briod gyntaf yn ferch i John Davies (Depot) a bendithiwyd yr undeb a phedwar o blant, ond nid oes ond dau o honynt yn fyw, sef Thomas a John Williams o'r ardal hon, a bu hithau farw dros ugain mlynedd yn ol. Y mae ei briod bresenol yn enedigol o Mountain Ash, De Cymru.
Cymerodd yr angladd le am ddau o'r gloch prydnawn Sul, Mawrth 7fed, gyda gwasanaeth byr wrth y ty ac yna yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghvd. Cafodd angladd tywysogaidd. Gweinyddwyd gan y Parchn. I. T. Williams, Scranton, Pennsylvania. (cyn-weinidog yr eglwys a chyfaill mynwesol yr ymadawedig), John Williams (T. C.) a Moses Young (B.), yr oll yn deimladwy iawn.
Gwnaeth cor yr eglwys eu rhan yn ganmoladwy iawn dan arweiniad Griffith H. Roberts, canwyd dwy o'i hoff emynau "Oleuni Mwyn" (Lead kindly light) ac "Iesu, Iesu'r wyt ti'n ddigon."
Rhoddwyd ef i orphwys hyd ganiad yr udgorn yn mynwent Fairview.
Gadawa i alaru ar ei ol ei briod, dau o feibion Thomas a John, a'i frawd Thos. D. Williams, Wilkes-Barre, Pennsylvania, a'r chwiorydd canlynol: Jane Williams, Wilkes-Barre, Pennsylvania; Margaret a Hannah yn Stamford, Connecticut, a Mary, priod Wm. M. Thomas, o'r ardal hon, a chefnder, D. R. Williams (Deiniol Arfon), Pittsburgh, Pennsylvania, yr hwn a ddaeth yma i fod yn bresenol yn yr angladd.
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod gweithgar yn eglwys Bethel, a bydd yno le gwag iawn ar ei ol am amser maith. Yr oedd yn feddianol ar wybodaeth eang mewn llawer cylch, ac yn ddarllenwr mawr ar hyd ei oes. Yr oedd yn aelod o fwrdd ysgolion dyddiol ein tref er's rhai blynyddau. Pan yr oedd gwahanol enwadau ein tref yn cynal cyfres o gyfarfodydd efengylaidd yn mis Tachwedd diweddaf, gwnaeth ei ran i hyrwyddo y mudiad rhagorol a bendithiol hwn, a hir gofir gan y rhai oedd yn bresenol am y noson y dywedodd ei brofiad crefyddol pan y cafodd droedigaeth dros bedair blynedd yn ol o dir sychlyd ameuaeth i wybodaeth efengyl wynfydedig ein Harglwydd Iesu Grist, a'r anogaeth daer a roddai i ieuenctyd ein tref i beidio ymyraeth a ddarllen llyfrau damniol ac anffyddol. Y mae genym hyder cryf dros gredu ei fod wedi cael yr Iesu yn "ddigon" iddo pan yn myned trwy y glyn tywyll angeu yn nghanol estroniaid yn yr ysbyty nos Fercher, Mawrth 3ydd.
Cyfaill.