RICHARD LLOYD EVANS. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Awst 19, 1916. Rhaid i ni gofnodi yr wythnos hon hanes marwolaeth alaethus y cyfaill Richard Lloyd Evans. Yr oedd ef a Richard Pritchard yn dod adref oddiwrth eu gwaith o chwarel Green Mountain drwy reilffordd y D and H, pryd y goddiwedwyd hwy gan ystorm fawr, ac yn ddisymwyth daeth y gerbydres nwyddau o'r tu ôl iddynt, a'r ystorm y fath nas gallent ei chlywed.

Tarawodd y ddau gan eu yaflu i ochr y ffordd. Nid oedd archollion Pritchard yn drwm, a gallodd gerdded adref, ond yr oedd Evans wedi ei niweidio mor fawr fel na ddaeth i feddiant o'i ymwybyddiaeth. Rhoddwyd ef yn y gerbydres a'i tarawodd dan ofal meddyg i'w gludo i ysbyty Rutland, ond bu farw y dydd Iau canlynol er galar i'w deulu a chylch eang o gyfeillion.

Efe oedd yr hynaf o blant David a Sarah Evans, Maes y Bwlch, Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd y teulu yn flaenllaw yn nechreuad hanes y Methodistiaid yn y lle a'r amgylchoedd. Gwna y diweddar Barch. G. Ellis, Bootle, sylw manwl ohonynt yn ei gyfrol ar hanes yr enwad yn yr ardal a'r cylchoedd.

Cafodd y cyfaill Evans ei dorri i lawr yn 45 mlwydd oed, yn nghanol ei ddyddiau a'i ddefnyddioldeb.

Daeth i'r wlad hon yn 18 mlwydd oed. Bu am gyfnod byr yn Wilkes-Barre, Pennsylvania, cyn symyd i'r lle hwn. Yma y priododd ac y magodd ei blant, ac edrychid arnynt fel teulu dedwydd. Yr oedd yn gymeriad pur a phrydferth, yn un o'r rhai mwyaf tawel a diymhongar a ellis ei gyfarfod, yn garedig wrth bawb. Byddai wrth ei bleser yn gwneud cymwynasau i'w gyfeillion ac eraill, ac yn un o'r rhai mwyaf hawdd i'w hoffi a gyfarfyddasom erioed.

Yr oedd yn aelod amlwg o'r eglwys Gymreig, a bu yn ysgrifennydd yr wglwys am flynyddau a chlywsom yr archwilwyr yn dwyn tystiolaeth uchel i'w lawysgrif, trefn, glanweithdra a chywirdeb ei lyfrau. Efe hefyd oedd ysgrifennydd cofnodol a gohebol y Gyfrinfa Iforaidd ers blynyddau, ac mae'n anhawdd cael ei gystal. Yr oedd wedi dal hyd y diwedd waith o ymddiriedaeth, a hyny ers llawer o flynyddau dan gwmni chwarel Green Mountain.

Yn ei farw collodd ei briod a'i ddwy ferch Jennie a Sarah, briod a thad gofalus a thyner ac mae lle gwag mewn cylchoedd pwysig yn yr ardal ar ei ol. Mae'r ardal yn gyfan yn cydymdeimlo a'r teulu yn eu profedigaeth sydyn a chwerw.

Y Sabboth canlynol, cynaliwyd y gwasanaeth angladdol yn yr addoldy Cymreig ei weinidog, y Parch. John W. Morris a Mr. Donald, gweinidog y Bedyddwyr Seisnig yn gwasanaethu ac yr rhoi gair da i'r ymadawedig.

Ar lan y bedd yn mynwent Poultney, gwasanaethwyd gan Mr. Morris a'r Gyfrinfa Iforaidd. Yr oedd yr angladd yn un o'r rhai mwyaf welsom ers blynyddau. Yr oedd ei ddau frawd David ac Evan, wedi cyrraedd yma yn brydlon o Boston i dalu y gymwynas olaf iddo. Yr oedd cauad yr arch yn guddiadig dan blethdorchau prydferth wedi eu cyflwyno gan gwmni chwarel Green Mountain, cor eglwys yr M. E. W. J Griffiths a John W. Evans, Boston.

Huna gyfaill hoff hyd y boreu y doi i fyny heb yr un archoll.
Evan Eryri.

Y Drych ~ Awst 24ain, 1916.