KATE LEWIS. VALHALLA, WESTCHESTER CO, NEW YORK.

Fel y cyhoeddwyd yn y rhifyn diweddaf o'r "Drych," foreu ddydd Sadwrn, Awst 12, bu farw y chwaer anwyl a siriol Mrs. Kate Lewis, anwyl briod Evan C. Lewis, 585 E. 164th Street, ar ol dyoddef cystudd blin a chaled am beth amser. Torodd ei hiechyd i lawr tua tri mis yn ol, oherwydd rhyw anhwylder mewnol, a bu gorfu iddi fyned i un o ysbytai y ddinas, lle y bu dan driniaeth lawfeddygol.

Yn mhen chwech wythnos o amser, daeth gartref yn ol, a dysgwylid y buasai yn esmwythad, ac yn adferiad iddi, ond parhaodd i ddyoddef cystudd a phoenau hyd y diwedd; er hyny, ni chlywid hi yn cwyno, nac yn grwgnach.

Ganwyd yr ymadawedig yn Dolwyddelen, Gogledd Cymru, oddeutu 43ain mlynedd yn ol, ac ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1897, yn ferch ieuanc fywiog, hawddgar a chrefyddol.

Yn 1907, ymunodd mewn cyfamod priodasol ag Evan C. Lewis, yr hwn oedd yn hoff ganddo amdani, a hithau am dano yntau. Bendithiwyd hwy ag un mab.

Cofiwn yn dda am ei sirioldeb a'i charedigrwydd, ac edrychem arni bob amser fel un allai lanw cartref a heulwen. Ond dyma drefn hen elyn y ddynoliaeth, tyr i lawr ar fyr o rybudd, yr hen.a'r ieuanc a'r canol oed, fel y teimlwn mai priodol y dywedodd y bardd: "The air is full of farewell to the dying, and mourning for the dead."

Yr oedd yn fawr ei pharch, yn gymeradwy ac yn boblogaidd yn mysg Cymry y ddinas. Yr oedd yn un o aelodau mwyaf ffyddlawn eglwys A. 11th St., bob amser a'i llaw a'i hysgwydd wrth y gwaith, a'i chalon gyda yr achos, yn aelod o Gymdeithas y Ladies Aid. Byddai yn cymeryd rhan neillduol yn nglyn a the parti blynyddol yr eglwys, yn hynod o weithgar, ac yn barod bob amser i gynorthwyo, ac i hwyluso pob peth yn ei flaen, ac yn wir, yn mhob cylch yr oedd hi troi ynddo.

Yr hyn a wnai yr amgylchiad yn bruddaidd iawn, oedd ei bod yn cael ei symud oddiyma, cyn magu ei phlentyn, William Owen Lewis, yw ei hunig blentyn, ac nid yw ond chwe mlwydd a haner o oed. Mawr fu ei gofal drosto, ac uchel fu ei delfrydau, ond hunodd cyn eu sylweddoli.

Mae cydymdeimlad cyffredinol Cymry y ddinas, yn neillduol a Mr. Lewis ei phriod, yn nghyd a Mrs. Browen, ei chwaer, yr hon a fu yn hynod o ffyddlawn a gofalus yn ei gwylio nos a dydd yn ei gwaeledd.

Gedy i alaru ar ei hol, heblaw yr uchod, fam oedranus yn yr Hen Wlad yn 84 mlwydd oed yn nghyd a thair o chwiorydd, a dau o frodyr. Nos Lun dylynol, cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn y cartref, pryd y daeth nifer fawr o gyfeillion Mrs. Lewis i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Yr oedd y gwasanaeth o dan ofal y gweinidog, sef y Parch. Joseph Evans, B. A., a chynorthwyid ef gan y Parch. D. Morgan Richards, o Utica. Yn ystod y gwasanaeth, canodd Mrs. Henderson Jones ddwy gân yn beraidd iawn a theimladwy, a chanwyd yr emynau swynol, "O fryniau Caersalem," a "Mae nghyfeillion adre'n myned," gyda theimlad.

Daearwyd y gweddillion yn Kensico Cemetery. Yr oedd toraeth fawr o flodau yn dorchau a choron blethau wedi eu hanfon gan luaws gyfeillion.
Colwynian.

Y Drych ~ Awst 24ain, 1916.