EVAN W. DAVIES. POULTNEY, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Poultney Vermont. Nos Lun diweddaf o'r flwyddyn 1917, bu farw Evan W. Davies yn ei gartref ar Norton Avenue, ar ol gwaeledd hir, ac am y chwech wythnos ddiweddaf wedi ei gaethiwo i'w wely.Cafodd ei eni yn Bethesda. Arfon, yn y flwyddyn 1848 ac yn y flwyddyn 1866, ymfudodd i'r wlad hon gan wneyd ei gartref yn Middle Granville, ac oddeutu deuddeg mlynedd yn ol symudodd i Poultney.
Yr oedd yn aelod o gyfrinfa Iforaidd "Llywarch Hen," ac hefyd yn aelod o gyfrinfa Salem, New York, o'r Maswniaid er ys 43 mlynedd.
Gadawa i alaru ar ei ol ddwy ferch. sef Mrs. Mary D. Oakman a Miss Margaret Davis, gyda y rhai yr oedd yn gwneyd ei gartref; hefyd dri mab, Wm. P. Davies, Flushing, Long Island; Richard P. Davies, Richmond Hill. New York, a Lieut. E. W. Davies, rywle yn Ffrainc.
Cymerodd yr angladd le y dydd Gwener canlynol gyda gwasanaeth yn nghapel Cymreig Poultney, a daearwyd ei weddillion yn Middle Granville.