CADWALADER R. EVANS. GRANVILLE, WASHINGTON CO., NEW YORK.
Dydd Sul, Mai 13eg, bu farw Cadwalader R. Evans yn ei gartref ar Potter Avenue, Granville, New York, yn ddyn ieuanc tua 37 mlwydd oed. Yr oedd yn cwyno ers rhai blynyddau fod rhyw anhwyldeb arno, ond ychydig o gwyn a gafodd, oherwydd yn oedd yn ddyn mawr o gorff, a golwg cryf arno, ond yr oedd yn amlwg fod rhywbeth yn ei flino, yr oedd ei wedd wedi newid ers tro, eto nid oedd neb yn meddwl ei fod mor agos i angeu, ac nid oeddwn fy hunan wedi dychmygu hyny, gan ei fod yn edrych yn bur dda pan y gwelais ef ddiwethaf tua blwyddyn yn ol. Ychydig flynyddau yn ol, cyfarfyddodd a damwain yn y chwarel (pryd y collodd dau o'i gydweithwyr eu bywydau), ac ni fu trefn arno yntau byth er hyny.Daeth i'r wlad hon o Bethesda, Arfon, ryw wyth neu naw mlynedd yn ol, ac aeth i Homestead, Pennsylvania. Bu yno am ychydig wythnosau, ac yna daeth i Granville. Mab ydoedd i'r heddwas Robert Evans a'i briod, a bu yntau yn heddwas yng Nghymru cyn iddo ymfudo i'r wlad hon; yn Cwmyglo, Arfon, yr arosai efe pryd hyny.
Mae ganddo un brawd yn y wlad hon, sef David R. Evans, Indiana, Indiana County, Pennsylvania.
Gadawodd i alaru ar ei ol briod a pedwar o blant bach, yn nghyd ag amryw o chwiorydd yn Nghymru.
Daearwyd ei weddillion y dydd Mercher canlynol, y gwasanaeth yn nghapel Peniel (M.C.), lle yr oedd yn aelod ers tro. Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. O. Williams a John W. Morris. Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'r teulu galarus yn eu profedigaeth lem.