HANNAH BEUNO JONES. THIELLS, NEW YORK.
Drwg genym gofnodi marwolaeth y chwaer Miss Hannah Beuno Jones, yr hyn a gymerodd le yn Disbrow Colony, Thiells, New York, dydd Llun, Rhagfyr, 31ain.Daeth angeu y tro hwn mewn gwedd bur frawychus. Ymddengys fod y gwasanaethyddion perthynol i'r lle yn mynd i lanhau y lloriau, a bod Miss Jones, yn ol ei harfer, yn parotoi y cwyr iddynt. Gan fod yr hin wedi fferu y cwbl i fyny, dododd Miss Jones y llestr ar y stove i ddadmer. Clywyd llais Miss Jones yn gwaeddi, ac mewn amrantiad yr oedd y chwiorydd Miss Inez a Maggie Owen yn ei hymyl. Canfuant ar unwaith fod y llestr wedi syrthio a'r cynwys wedi tanio, hefyd fod gwisgoedd Miss Jones wedi cymeryd tan. Sonir llawer y dyddiau hyn am wrhydri, a rhoddir cyhoeddusrwydd mawr iddo. Dyma engraifft o wroldeb dystaw. Yn eu hymdrech i achub Miss Jones, gorchuddwyd y tair a'r fflamau, ond trwy bresenoldeb meddwl y ddwy Miss Owens, diangasant rhag cael eu llosgi i farwolaeth.
Ond yn mhen ychydig oriau, canfuwyd fod y braw wedi llethu Miss Jones, ac er ymdrech y meddygon a'r nyrses, diangodd o fyd y gofidiau yn ddiboen ac mewn llawn feddiant o'i synwyrau, gan sylweddoli yn dawel fod ydiwead wedi dod.
Boreu Gwener, deuwyd a'i gweddillion i New York, a'r noson hono am wyth o'r gloch, er garwed yr hin ac annghyhoeddusrwydd yr amgylchiad, cyfarfu nifer luosog yn mhalwr Mr. Matthews, yr undertaker, pryd y cynaliwyd gwasanaeth gan y Parch. Joseph Evans, B. D., o eglwys pa un yr oedd yr ymadawedig yn aelod. Cyfeiriodd Mr. Evans at ei thad, T. B. Jones, fel blaenor parchus gyda'r Annibynwyr yn y Bontnewydd, Caernarfon. Adnabyddir Mr. Jones hefyd fel gwr deheuig a doniol ar y llwyfan Cymreig.Amlygwyd cydymdeimlad a'r tad a'r fam a'r brodyr.
Cyfeiriwyd at fanylrwydd y chwaer ymadawedig gyda'i dyledswyddau, ei hysbryd addfwyn a maddeugar. ei hoffder o'r cysegr a phobl Dduw, a'i chyfraniadau at eglwys 11th St. Canwyd dwy gan briodol iawn i'r amgylchiad gan Mrs. Harry Morris, yr hyn yn ol tystiolaeth pawb oedd yn rhoddi urddas ar y gwasanaeth. Hefyd canwyd dau emyn gan y gvnulleidfa.
Cymerodd yr angladd le ddydd Sadwrn yn Kensico Cemetery. Gorchuddiwyd y bedd a blodau oddiwrth wahanol adranau o swyddogion y sefydliad. ac hefyd oddiwrth chwiorydd 11th Street. Gwnaed yr oll o'r trefniadau a chariwyd hwy allan yn brydferth a didramgwydd gan un o gyfeillesau Miss Jones, sef Mrs. D. B. Evans, New York.
Cyfaill.