JOHN RICHARD JONES. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Rhagfyr 17eg, 1917. Yr wyf yn anfon ychydig linellau am farwolaeth a chladdedigaeth John R. Jones, yr hyn gymerodd lle ddydd Llun diweddaf, Rhagfyr lOfed, yn nghartref ei ferch, Mrs. John J. Williams, Dutton Avenue. Mae ein cydymdeimlad gyda y teulu sydd wedi ei amddifadu o dad a mam, hoff a thirion.Ymfudodd y teulu o Blaenau Ffestiniog i'r Unol Dalaethau ddeuddeg mlynedd yn ol, gan wneyd eu cartref yn y pentref hwn. Wedi eu gadael mewn galar, mae chwech o ferched, sef Mrs. R. G. Roberts a Mrs. R. Williams, Granville, New York; Mrs. Owen Roberts, Mrs. John J. Williams a Mrs. Llewelyn Lloyd, Fair Haven, Vermont, a Mrs. Edward Owen. Waterliet, New York. Hefyd brawd yn Vancouver. British Columbia, a chwaer yn New Jersey.
Cymerodd yr angladd le brydnawn dydd Iau, a daeth tyrfa barchus at eu gilydd i dalu eu gwarogaeth olaf iddo. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. J. D. Owen, ac yn yr addoldy, (A.) gan y Parchn. J. D. Owen ac R. W. Owen (M. C.). Canwyd ei hoff emyn yn y gwasanaeth. Daearwyd yn mynwent brydferth Cedar Grove.
Heddwch i'w lwch.
Y Drych ~ Rhagfyr 20fed, 1917.
JOHN RICHARD JONES. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Yn y "Drych" am Rhagfyr 20fed, ymddangosodd hanes marwolaeth John R. Jones (sef fy mrawd). Carwn gael gofod fech- an o'r "Drych," nid yn unig i gywiro ond i geisio egluro ychydig yn fwy manwl i ganoedd o ddarllenwyr y "Drych" ac i drigolion Congl y Wal a Llan Ffestiniog.Ganwyd a magwyd yr ymadawedig yn y Llan lle y bu hyd yr ymbriododd a Elizabeth, merch i Dafydd Roberts (Dafydd Rob), Congl y Wal, pryd y symudodd yno i fyw. Yno yn unig y cartrefodd hyd y symudodd ef a'r teulu i Fair Haven, oddeutu deuddeg mlynedd yn ol. Collodd ei briod yn Mawrth, 1912. Cefais lythyr oddiwrtho ychydig wedi i hyn ddygwydd yn cwyno yn arw ar ol ei Liza. Nid wyf yn meddwl y gwelodd fawr neb ddau mwy hoffus o'u gilydd.
Mab ydoedd i Robert a Catherine Jones o Llan, Ffestiniog, ei fam yn ferch Morris Roberts, Hafod Fawr. Mae yn dda iawn genyf ddeall ei fod wedi cael pob caredigrwydd gan ei blant a'i gyfeillion yn ei waeledd. Heblaw ei chwe merch a nodwyd yn y "Drych," mae iddo un fodryb, chwaer ei fam, yn Fair Haven, sef Mrs. William Francis: ac un yn New York, sef Mrs. Sina Williams. Mae yn aros chwech o honom; Robert yn y Llan; Liza yn y Blaenau; Jane yn New Jersey; Griffith yn Vancouver, B. C.; Kate ac Edward yn Seattle, ac Evan a Lewis yn Great Falls. Montana.
Derbynied y cyfeillion yn Fair Haven ein diolchgarwch fel teulu am eu caredigrwydd tuag at ein hanwyl frawd.
Evan Jones, Great Falls, Mont.