ANNA S. POWELL. MILWAUKEE, MILWAUKEE COUNTY, WISCONSIN.

Foreu ddydd Llun, Rhagfyr 24ain, bu farw y chwaer uchod yn nghartref ei mab hynaf, Evan D. Jones, 696 Stowell Avenue, yn 74 mlwydd oed. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel a heddychol, er pob gofal, ac yn nghanol digonedd o bethau y byd hwn.

Ganwyd Mrs. Jones yn Beddgelert, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i Evan a Jane Powell, ac yn un o naw o blant.

Ymfudodd i'r wlad hon yn Mehefin, 1866, gyda'i brawd a chwaer-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. W. E. Powell. Y flwyddyn ddylynol, ymbriododd a John S. Jones, brodor o Aberystwyth, De Cymru. Ganwyd iddynt chwech o blant, o ba rai y bu farw pedwar pan yn ieuanc. Bu farw ei phriod Ebrill y 9fed, 1887, gan ei gadael yn weddw a dau o blant bychain, sef Evan D. a William R. Jones, ond buan y daeth y ddau fab i fod o gymorth i'w mam i ymrwyfo yn erbyn anhawsderau.

Y mae y mab hynaf, Evan D. Jones, er's blynyddoedd bellach yn ysgrifenydd cynorthwyol y Northwestern Mutual Life Insurance Company, a gydag ef y bu y fam yn cartrefu am lawer o flynyddoedd. Mewn gwirionedd, ni wahanwyd hwy o gwbl. Y mab arall yn Station Agent gyda y C. N. W. Railway, yn Elcho, Wisconsin, yntau a theulu bychan, ac yn gysurus arnynt. Ni bu mam erioed yn fwy tyner a gofalus o'i phlant, na plant yn fwy gofalus o'u mam, ac nid oes yn aros i alaru ar ei hol yn awr ond y ddau fab ac un chwaer, sef Mrs. John O. Morris o'r ddinas hon.

Bu farw ei brawd, W. E. Powell (Gwilym Eryri) oddeutu saith mlynedd yn ol; digon yw nodi ei enw ef, gan y tybiwn mai efe oedd y Cymro mwyaf poblogaidd yn y wlad, os nad y byd Cymreig. Yn mhen dwy flynedd wedyn bu farw y brawd arall, sef Robert Powell, Williamsburg, Iowa. Adwaenid yntau mewn cylch eang trwy gyfrwng y "Drych" fel llenor a bardd o safle uchel.

Gwasanaethwyd yn angladd y chwaer dydd Iau gan y gweinidog, y Parch. Henry K. Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. John E. Jones, South Side, Chicago; William Mathews, Waukesha, a William E. Evans, Mankato. Minnesota. Tystiolaethai yr oll yn eglur a dibetrus am gywirdeb bywyd, gweithgarwch a ffyddlondeb di-ildio y chwaer ymadawedig yn nglyn ag achos crefydd trwy ei holl fywyd. Sylwai y gweinidog ar un nodwedd neillduol oedd ynddi, ac yr hoffai ef yn fawr, sef lledneisrwydd. Gallwn ninau hefyd dystiolaethu yr un modd wedi byw yn gymydogion iddi, a mwynhau llawer o'i chymdeithas am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Cafodd angladd anrhydeddus, yr oedd yr ystafell wedi ei llanw a blodau amryliw a phrydferth, a hithau yn yr arch yn edrych mor brydferth a'r blodau. Chwith iawn fydd i ni fel cenedl am Mrs. Jones, byddai yn wastad yn llawen ac yn ewyllysgar i gynorthwyo yr angenus yn ei ffordd dawel ei hun. Yr oedd ei ffyddlondeb gyda'r achos yn mhob agwedd o hono yn gyfryw na oddefai i ddim ei lluddias o'r moddion tra y gallodd fyned yno. yn ei wasanaeth Ef y bu fyw ac y bu farw. Teimlem hefyd fod rhywbeth yn hynod yn ei marwolaeth, sef diwrnod cyn y Nadolig. Yr oedd fel pe yn cael ei galw gartref mewn pryd i gyduno a'r angylion a'r saint yn y nefolion leoedd i ddathlu genedigaeth Ceidwad a Gwaredwr y byd, sef dydd Nadolig.

Dywedai y nyrs iddi godi ei llaw rhyw awr cyn marw yn ei gwendid. gan ddweyd yn ddystaw. ond yn eglur. "I am coming," ac yn ebrwydd yr ehedodd ei hysbryd ymaith mewn tangnefedd at yr Hwn a'i rhoes. "I'r ty nid o waith llaw tragwyddol yn y nefoedd."

Aeth ymaith o ganol cysuron
I'r cartref tragwyddol o hedd,
Llawenydd digymysg oedd yno
I'w derbyn i undeb y wledd,
Dylynodd yr lesu yn gyson
A hoffai gymdeithas y saint,
Caiff bellach ei foli'n dragwyddol
Yn'i gwmni, O ryfedd ei braint.

Gan Richard Humphrey.

Y Drych ~ Ionawr 24ain 1918.