GRACE PRITCHARD. GRANVILLE, NEW YORK.

Meddwn y gorchwyl pruddaidd o gofnodi hanes marwolaeth ein hanwyl fam, yr hyn gymerodd le yn yr ysbyty yn Albany, New York, brydnawn Iau, Rhagfyr 20fed.

'Roedd ein mam wedi tori ei chartref i fyny er's tua dwy flynedd, ac wedi gwneyd ei chartref gyda ei mab Richard a'i briod yn ninas Albany. Yn mhen ychydig gyda blwyddyn daeth yn ol i Granville, ac arosodd yma. Ymgymerodd ar unwaith a chadw ty i wr gweddw ieuanc a thri o blant, ac yno y bu yn fam dda iddynt oll am ychwaneg na blwyddyn. Yn y cyfamser torodd ei hiechyd i lawr, fel y gorfu iddi roddi i fyny, a dychwelodd at Richard a'i briod eilwaith, yr hyn a wnaeth mis Medi diweddaf. Yno y bu am saith wythnos o dan ofal nyrs. Ar gymelliad taer ei meddyg, symudwyd hi i'r ysbyty, yn mha fan y gorphenodd ei gyrfa ddaearol yn mhen tua saith diwrnod wedi ei chymeryd yno, yn yr oedran o 70ain mlwydd. Ei hafiechyd ydoedd bright's disease. Dyoddefodd ei chystudd yn dawel, heb ddweyd gair yn ynfyd yn erbyn yr Arglwydd.

Profodd yn ei bywyd gryn lawer o chwerwon boenau y byd, ond diolch i Dduw, cafodd ganddo nerth i ymgynal odditanynt oll. Meddai ran helaeth o'r peth cyfrin hwnw, y gallu i obeithio yn wyneb anobaith. Gwyr y rhai a'i hadwaenai oreu y byddai bob amser yn feddianol ar ysbryd llawen a chalonog.

Yn ngwanwyn 1888 y gadawodd Llanrug, Gogledd Cymru, am y wlad hon gydag wyth ohonom - chwech o ferched a dau o feibion o dan ei gofal. Cyraeddasom West Pawlet, Vermont, yn Ebrill y flwyddyn uchod, a chawsom gartref wedi ei barotoi i'n derbyn gan ein tad, yr hwn oedd yma flwyddyn o'n blaen. Bu ein rhieni yn byw yn West Pawlet am tua deg mlynedd, yn mha le y collasom ein chwaer Sarah Jane trwy angeu. Tuag ugain mlvnedd yn ol symudasant i fyw i Granville, yn mha le y bu ein tad farw 19 mlynedd yn ol. Wyth mlynedd yn ol bu farw ein chwaer, Mrs. John H. Griffiths; bron yr un adeg y bu farw chwaer arall, Mrs. William Jones, yn Neheudir Cymru. Dyna yr ystormydd gerwinaf yr aeth ein mam trwyddynt, ond sydd erbvn hyn ni gredwn uwch ingoedd yn iach ei chyngan.

Y dydd dylynol i'w marwolaeth dygwyd ei gweddiilion i fyny yma, a daeth ein brawd a'i briod gyda hwy. O'r ty hwn y cymerodd y claddedigaeth le am 2 prydnawn Sul, Rhagfyr 21ain. Gweddiwvd yn y ty cyn myned i'r capel gan y Parch. T. J. Jones. gweinidog yr Eglwys y perthynai iddi. Gwasanaethwyd yn y capel gan y gweinidogion canlynol: Parchn. William O. Williams (M. C.) B. G. Newton (A.), a T. J. Jones. Daearwyd ei gweddillion yn meddrod teulu yn White Cemetery, West Pawlet Vermont. Gwasanaethwyd ar lan y bedd gan y Parch. T. J. Jones. Yr archgludwyr oeddynt, Morris R. Roberts, Robert Roberts, Robert Hughes, Evan D. Davies, David O. Jones a Rees G. Williams.

Erys i alaru eu colled a'u hiraeth am un oedd yn anwyl ganddynt, y rhai canlynol: Mrs. Robert L. Lewis, Mrs. Job W. Jones. Mrs. Berrie Grace Lewis, gweddw y diweddar Lewis L. Lewis, dau o feibion, Richard yn Albany, New York, Tommie yn Camp Lewis, Tacoma Washington; tair o chwiorydd yn Liverpool Lloegr, yn nghyd a nifer luosog o wyrion ac wyresau, yma ac yn Nghymru.

Dymunwn fel teuluoedd gyflwyno ei diolchgarwch puraf i'r gweinidogion am eu sylwadau cysurlawn, a'u geiriau caredig. Derbynied pawb a fu yn garedig chymwynasgar i ni yn nydd ein trallod ein diolch goreu.
Ei merch, Mrs. R. L. Lewis.

Y Drych ~ Ionawr 10fed 1918.