ANNE J. ROBERTS. WEST PAWLET, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

"Oes mae lle gwag o amgylch y bwrdd;
Do, fe ddiangodd un anwyl i ffwrdd."

Ie; dyma sydd yn meddianu ac yn llanw ein meddyliau heddyw yn y pentref bychan hwn, sef y syniad fod un o ragorolion y ddaear wedi cilio o'n plith byth i ddychwelyd mwy. Cyfeirio yr ydym at farwolaeth y chwaer anwyl, Mrs. Robert J. Roberts (Boss), yr hyn a gymerodd le yn gynar foreu dydd Iau, yr 20fed cyfisol, ar ol wythnos o waeledd.

Merch ydoedd Mrs. Roberts i John Roberts (Graianog) a'i briod, o Talysarn, Arfon, a ganwyd hi yn Gelli Bach, Llanllyfni, Mawrth y 31ain, 1850.

Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon yn 1873, a gwnaethant eu cartref yn North Poultney, Vermont, hyd Gorphenaf, 1883, pryd yr apwyntiwyd ei phriod yn oruchwyliwr ar chwarelau Hughes Co., a symudodd y teulu mewn canlyniad i fyw i West Pawlet.

Mwynhaodd y teulu hwn gryn lawer o fendithion Rhagluniaeth; ond profasant hefyd yn ystod eu taith rai o'i throion mwyaf chwerw. Dydd cyntaf y flwyddyn 1886, tra yn ceisio achub ei gydymaith, collodd eu bachgen Robert ei fywyd drwy foddi, a'i frawd Hughie, wedi hyny, a foddwyd tra yn ymdrochi Awst, 1889. Hefyd eu tad beth amser ar ol hyn a gyfarfyddodd a damwain, a bu yn agos iawn i angeu. Ar y lOfed o Fedi, 1916, bu farw eu merch, Kate, yr hon oedd yn briod i Tom Edwards o'r lle hwn. Profodd Mrs. Roberts ei hun yn mhob un o'r amgylchiadau hyn yn Gristion cywir, a llanwai ei lle fel priod a mam hyd yr ymylon.

Yn ei chartref, y nodwedd fwyaf amlwg yn ei chymeriad ydoedd manylrwydd, ei gofal am gysur y teulu, a deuai yr un nodwedd i'r golwg yn ei holl gysylltiadau cymdeithasol ac eglwysig, a phriodol iawn y sylwodd y Parch. John W. Morris ddydd ei hangladd fod ei marwolaeth yn golled dri-phlyg, sef colli mam o'r cartref, colli mam o'r ardal, a cholli mam yn Israel. Ar hyd y blynyddoedd bu ei chartref a'i chalon yn agored i weision yr Arglwydd. ac ni byddai un amser yn teimlo yn fwy boddhaus na phan y caffai gyfle i wneyd rhywbeth i helpu achos Iesu Grist.

Ddydd Sadwrn, yr 22ain, daeth tyrfa dra lluosog yn nghyd er cyflawni y gymwynas olaf i'w gweddillion, ac anaml iawn y gwelir angladd a mwy o arddangosiad o wir barch i goffadwriaeth, ac edmygedd o gymeriad yr ymadawedig, Gwasanaethwyd gan y gweinidogion canlynol: Parchn. T. J. Jones (A.), Granville; W. D. Thomas, Middle Granville; J. W. Morris, South Poultney; Mr. Newton, gynt o Granville, yn nghyd a Wm. O. Williams, gweinidog yr eglwys y perthynai ein chwaer ymadawedig iddi, a theimlwn mai un o ragorfreintiau penaf ein bywyd oedd cael bod yn bresenol yn y gwasanaeth hwn, gan fel y teimlai pawb fod rhyw eneiniad cyfrin a chysegredig iawn.

Gadawa ein chwaer i alaru am dani ei phriod; ei mab, John Roberts; dwy ferch, sef Mrs. Hugh J. Roberts a Miss Dorothy Roberts; hefyd ei hwyr bychan Robert Edwards; tri brawd a thair chwaer a adewir hefyd yn eu galar ydynt: Mrs. John, Hughes yn Granville; Mrs. John T. Jones, Utica; Ellen a John yn yr Hen Wlad; Hugh yn California, ac Owen J. Roberts yn West Pawlet.

Dymunwn ninau heddwch i'w llwch a nawdd y nef dros ei phriod a'r teulu oll.
Gan Gwlithyn.

Y Drych ~ Ionawr 3ydd 1918.