JAMES ROBERTS. FAIR HAVEN, RUTLAND COUNTY, VERMONT.
Dydd Mercher, Rhagfyr y 26ain, 1917 bu farw y cyfaill James Roberts yn 31 mlwydd oed.Genedigol ydoedd o Blaenau Ffestiniog; mab i David a Jane Roberts, Trefeini.
Ymfudodd i'r wlad hon wyth mlynedd yn ol, a threuliodd y rhan fwyaf o'r amser yn yr ardal hon yn gweithio yn y chwarelau lle yr ystyrid ef yn weithiwr gonest a medrus. Cafodd yr ymadawedig gystudd maith a chaled, bu yn dihoeni am lawn ddwy flynedd o amser. Cyn ei afiechyd yr oedd yn ddyn ieuanc heinyf a hardd, yn feddianol ar gorff cydnerth a grymus, ond torwyd ef i lawr yn anterth ei nerth a chwalwyd ei obeithion yn mlodau ei ddydd. Yr oedd Jim Roberts yn ddyn ieuanc caredig a hawdd ei hoffi, ac yr oedd yn ei gymeriad rai nodweddion i'w hedmygu.
Y dydd Gwener dylynol er ei bod yn ddiwrnod eithafol o oer, daeth llu i'w angladd i'w hebrwng i fynwent Cedar Grove lle'r huna'r cyfaill hoff ei olaf hun. Gwasanaethwyd yn yr addoldy ac ar lan y bedd gan y Parch. R. W. Owen (T. C.).
Yn galaru ar ei ol y mae ei fam weddw, Mrs. Jane Roberts, Trefeini, Ffestiniog, Gogledd Cymru; pedwar brawd a chwaer; Rhys yn Ffestiniog; Stephen yn Tonypandy, De Cymru; William yn y wlad hon, a Robert yn 'rhywle yn Ffrainc,' a Sarah yn Awstralia bell. Dymunir ar i bapyrau Ffestiniog wneyd sylw o'r uchod.