DAVID D. THOMAS. MIDDLE GRANVILLE, WASHINGTON COUNTY, NEW YORK.

Boreu ddydd Mercher, Mehefin 27ain, tarawyd trigolion y pentref hwn a braw pan glywsant am farwolaeth sydyn D. D. Thomas, un o'n Cymry mwyaf amlwg. Ymddengys pan ydoedd ar ei ffordd i'r swyddfa iddo gael ergyd drom o'r parlys, a bu farw mewn ychydig fynydau, er galer mawr i'r teulu a'i gyfeillion.

Ganwyd Mr. Thomas yn Braich Melyn, Bethesda, Gogledd Cymru, Mehefin 29ain, 1852, ymfudodd gyda'i rieni i'r wlad hon pan tua pump oed. Enw ei rieni ydoedd D. and M. Thomas; ei fam yn chwaer i'r diweddar H. Williams o'r lle hwn. Ag eithrio dwy flynedd, fe dreuliodd Mr. Thomas yr oll o'i oes yn y pentref hwn, ac yn fawr ei barch gan y pentrefwyr. Ers blwyddi efe oedd yn arolygu masnach y glo dan y Penrhyn Coal Co. Yr ydoedd yn ddyn amlwg iawn mewn ystur gymdeithasol a chrefyddol. Bu'n dal ei swydd o Feirst y tlodion dros yr adran ogleddol o'r dref am 26 mlynedd, a sieryd hynny yn uchel am yr ymddiriedaeth feddai y cyhoedd ynddo.

Efe hefyd ydoedd llywydd Elmwood Cemetery Association. Bu yn aelod crefyddol o'r Eglwys Bresbyteraidd am 41 mlynedd, ac am dros 20 mlynedd yn flaenor ffyddlon ynddi, ac am nifer helaeth o flwyddi yn drysorydd yr eglwys ac ymddiriedolwr, ac aelod o'r Cwrdd Dosbarth Presbyteraidd.

Perthynai iddo nodweddion dymunol a phrydferth, pa gylch bynag y troai ynddo yn yr oedd yn boblogaidd. Yr oedd yn feddianol ar yr elfenau hyny i atdynu ato. Ystyrid ef yn un o'r dynion caredicaf, doniwyd ef a chalon agored, difalais a hynaws; nis gallai oddef i weld neb mewn cyni a dyoddefaint, a llawer gweithred ddystaw gymwynasgar wnaeth i geisio lleddfu y cyrfyw.

Yr oedd yn Gymro pybyr a thwymgalon ac yn nglyn a phob symudiad Cymreig rhoddai bob gallu o'i blaid. Fel dinesydd Americanaidd, yr oedd yn deyrngarol ac effro i holl symudiadau'r wlad, a ffyddlon dros ei egwyddorion. Yn yr eglwys perchid ef yn fawr ar gyfrif ei gysondeb a'i sel, a'i haelioni, a'i barch dyfnaf i'r eglwys. Teimlir chwithdod mawr ar ei ol fel dyn da, dinesydd ffyddlon, a Cristion cywir. Y golled fwyaf i ardal yw colli dylanwad dynion da.

Gadawodd i alaru ar ei ol ei briod, un ferch, Mrs. R. J. Jones, Washington, D. C.; dau fab, Mr. W. D. Thomas, Heosick Hills; a Glen Thomas, o'r lle hwn; Mrs. R. Whittington (ei chwaer) o'r lle hwn a W. J. Williams, Utica, ei frawd. Mae ein cydymdeimlad a hwy. Brydnawn Sadwrn, Mehefin 30ain, daeth tyrfa luosog a pharchus i'w gladdedigaeth, y fwyaf mewn cof o'r addoldy Presbyteraidd. Gorchuddiwyd yr arch a blodeugyrch prydferth. Gwasanaethwyd yn y gwasanaeth gan y Parch. W. D. Thomas, Middle Granville, a D. Hughes, efengylydd o Harrington, cyn-weinidog yr eglwys. Huned yn dawel.

Newspaper Obituary.