ELIZABETH JONES THOMAS. MIDDLE VILLAGE, QUEENS COUNTY, NEW YORK.

Gwelsom nodiad yn y "Drych" am farwolaeth Mrs. Elizabeth Thomas, "nain Thomas" fel y gelwid hi gan lu o blant a dderbyniodd i'r byd yma yn nghorff y pum mlynedd ar hugain diweddaf. Yr oedd ei hymweliadau yn mhlith teulu- oedd Cymreig ein dinas wedi ei gwneyd yn gymeriad adnabyddus.

Ganwyd hi yn y flwyddyn 1843, yn Llanuwchllyn, ger y Bala; ei thad oedd Griffith Ffoulk Jones, o deulu Pantymarch; brawd i'r Parch. Evan F. a Richard F. Jones, pregethwyr athrylithgar a chymeradwy yn y wlad hon yn yr amser a fu. Cartrefle teulu ei mam oedd Penygeulan yn Llanuwchllyn, yn gyfnither i'r diweddar Barch. Owen Jones, Lerpwl; y diweddar Barch. Owen Edwards, o Gaernarfon, yr hwn fu farw yn Awstralia, a'r Cymro byd enwog O. M. Edwards.

Daeth i'r wlad hon yn mis Mai, 1887, gyda ei dwy ferch, Kate a Winifred, gan sefydlu yn y ddinas hon. ac yma y trigiasant o hyny hyd yn awr, yn gysurus a mawr eu parcel. Yr oedd Mrs. Thomas o feddwl craff, yn hoff o ddarllen, ac yn gydymaith dymunol gan fod ganddi ystor dibendraw o adgofion am bregethau, pregethwyr ac helyntion ei hamser yn Nghymru. Mwynhaodd iechyd da hyd yr ychydig flynyddau diweddaf, pryd y collodd ei chlyw i raddau, ac y cafodd ergyd o'r parlys, yr hyn fu achos ei marwolaeth.

Hunodd yn dawel Tachwedd 26ain, gan sibrwd y penill, "Cymer Iesu fi fel 'r ydwyf," a.y.

Cafodd angladd teilwng, ei harch wedi ei gorchuddio gan flodau persawrus. Gweinyddwyd gan y Parch. Joseph Evans. B. A., a'r Parch. W. H. Williams. Warrior Run, y cor yn canu rhai o'i hoff emynau. Gorphwysa y rhan farwol o honi yn y Lutheran Cemetery, claddfa y teulu. Mae cydymdeimlad llwyraf llu o ffryndiau a chydnabyddion yn cael ei estyn i'w dwy ferch, Mrs. Winnie Sprock a Mrs. Kate Montague yn yr amgylchiad torcalonus o golli mam, ond cofier mai y lle yr wyf Fi y byddwch chwithau hefyd.
Gobaith.

Y Drych ~ Ionawr 10fed 1918.