ELIZABETH WILLIAMS. UNADILLA FORKS, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.
Elizabeth Williams, priod y diweddar Owen Williams. Bu efe farw Mehefin 20fed, 1915. Un o wyr Mon oedd Owen Williams, ac un o ferched Eifionydd oedd Mrs. Williams, yn enedigol o Llanalhaiarn.Cymeriad yn meddu neillduolion arbenig ydoedd, adnabyddir hi yn well o bosibl wrth yr enw Aunt Betsan; teimlai pawb fod ganddynt ryw haul ynddi.
Ymfudasant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1867, ac ymsefydlasant yn Utica, ac yn ddiweddarach symudasant i ardal Plainfield. Yma y treuliasant y darn olaf o'i hoes, mewn amaethdy bychan o'r eiddynt eu hun. Mae yn aros bedwar o blant, dau fab, John ac Owen, a dwy ferch, Mrs. Williams yn Utica, a Mrs. Gerard yn yr Alban. Dyma deulu ag y bydd eu henwau yn perarogli yn yr ardal yma am flynyddoedd i ddod, a theimlir eu heisieu yn barhaus.
Bu yr hen fam farw brydnawn Sul, Rhagfyr 23ain, yn yr oedran teg o bedwar ugain a dwy, wedi llenwi cylchoedd bywyd fel gwraig, mam a chymydoges i'w llawn ystyr. Nodwedd amlycaf el bywyd ydoedd crefyddoldeb dwfn, dyna wnaeth ei henw mor anwyl, a'i choffadwriaeth mor fendigedig gan bawb a'i hadwaenai. Cawsom ynddi ffrwd o fywyd gwastad bob dydd yr un fath. Fe fyddai mor llawn o ysbryd crefydd yn ei chartref ag a fyddai ar y gwyliau a'r Sabbothau, un o'r engreifftiau goreu o fywyd yn cael ei reoleiddio gan egwyddor santaidd. Gwyddai y dydd yr adgenedlwyd hi, a hoffai fel yr Apostol fyned dros hanes y greadigaeth newydd.
Er nad oedd ar y pryd ond geneth ieuanc yn Eifionydd, goleuni ar gariad y Ceidwad a'i tynodd hi at ei draed, rhoddodd fynegiad i'w theimladau trwy gyfrwng yr hen emyn hwn:
"O anfeidrol rym y cariad
Anorchfygol ydyw'r gras."
Glynodd yn ei chalon trwy holl drofeydd y daith. Yr oedd mor fyw a ffres ganddi ar ben y pedwar ugain a dwy o flynyddoedd ag ydoedd pan yn bedair-ar-bymtheg oed. Fe ddywedir fod gan y diweddar Newman Hall oslef i acenu y gair "Mesopotamia" nes gyru tyrfa i orfoledd. Beth bynag am hyny, gwyddom y gallai Betsan Williams ddweyd enw Iesu Grist nes toddi ein calon. Nid oedd i fyny a llawer gwraig sydd yn Plainfield mewn gallu amgyffred gwirioneddau mawr a hanfodol crefydd, ond credaf nad oes yn y dalaeth wraig oedd yn gallu gorphwys mewn ymddiriedaeth lwyrach ar Dduw na hi. Meddai ar grediniaeth syml, ond diysgog yn holl wirioneddau gair Duw. Meddai ystor o adnodau ac emynau, a'r holl adnodau yn rhai fyddai yn carlo mer gwirionedd yr efengyl. "Fel yr adnabvddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef." Wrth edrych arni yn myned i lawr y glyn mor dawel, mor siriol, meddyliem am yr adnod hono, "Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron. Am ei fod ar fy neheulaw, ni'm hysgogir." Yn hollol felly y gorphenodd ei gyrfa yn y modd mwyaf arwrol.
Dydd Iau canlynol, daearwyd yr hyn oedd farwol o honi yn nghladdfa Unadilla Forks, wrth ochr ei phriod. Mae yn aros i alaru ar ol mam wir ofalus ddau fab a dwy ferch: hefyd dau frawd, Richard Williams, Unadilla Forks, a John H. Williams, Plainfield.
Gwasanaethwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. Abram Jones, Plainfield, a'r Parch. Mr. Newman. gweinidog y Bedyddwyr yn y lle. Gorphwysed mewn hedd hyd foreu y codi. Gwylied angylion y nef y fan.
Gohebydd.