THOMAS R. BEAN. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Oshkosh, Wisconsin.
Yn yr oedran teg o dair a phedwar ugain bu farw Thomas R. Bean, un o hen gymeriadau gwir barchus sefydliad Cymreig Utica, Wisconsin, sef ei drigfan am oddeutu chwe deg ac wyth o flynyddau.

Ganwyd ef yn Corwen, Sir Meirionydd, Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o naw o blant; chwech o frodyr a thair o chwiorydd, pa rai oll a'i rhagflaenodd i fyd yr ysbrydoedd.

Ymfudodd i'r wlad hon pan yn 17 mlwydd oed, gan ymsefydlu am dymor yn Utica, New York. Yn y flwyddyn 1850, symudodd i sefydliad Cymreig Utica, Wisconsin, gan brynu darn o dir ar ba un y bu ei gartref sefydlog hyd ddydd ei farwolaeth.

Unwyd ef mewn priodas a Miss Margaret Lowe, merch i'r diweddar Richard ac Elizabeth Lowe, Wild Rose, Wisconsin, yr hon mewn gwth o oedran sydd mewn galar dwys ar ei ol. Ganwyd iddynt chwech o blant, dau o ba rai a ragflaenasant eu tad. Yn aros y mae Daniel Bean, yr hwn sydd yn byw yn yr hen gartref, pa un y gellir dwyn tystiolaeth iddo fod yn dra ffyddlawn i'w dad oedranus; gan i'r hen wr fod wedi ei amddifadu o'i olwg i raddau helaeth am dros ddeugain mlynedd; ac iddo am rai misoedd cyn ei farwolaeth fod yn gwbl ddall.

Er hyny, yr oedd yn gallu ymdawelu; a phob amser yn llawen gan gwbl ymostwng i ewyllys ei Dad. Heblaw ei briod a'i fab, mae yn aros i alaru ar ei ol ei dair merch: Mrs. John D. Williams, Wild Rose; Mrs. W. Jarmon Evans, Oshkosh: a Miss Sara M. Bean, Detroit City, Minnesota. Cyn ei analluogi gan henaint a dallineb yr oedd yn un o aelodau mwyaf ffyddlawn eglwys Bethesda, yn wir selog gyda'r Ysgol Sabbothol. Rhai o oriau hapusaf ei fywyd oedd cael y teulu o'i amgylch i ddarllen adnodau o'r 'hen lyfr da,' fel yr arferai alw y Beibl; ac hefyd i ganu caniadau Seion, ac mewn hwyl

Ei amen heb len amlygai - mai nwyfre
Y nefoedd a nofiai;
Isel iawn ymostyngai
O'i fodd i addef ei fai.

Rhoddwyd ei gorff i dawel orphwys yn mynwent Bethesda. Gweinyddwyd gan y Parch. G. J. Parry, Salem, Oshkosh. Yr archgludwyr oeddynt: Benjamin Edwards, Jacob Davies, David Lloyd George Bennet, Edward Parry a William Evans. Yn yr angladd yr oedd Miss Sara M. Bean, Detroit City, Minnesota: Mr. a Mrs. W. O. Williams a Mrs. J. D. Williams, Wild Rose; Mr. a Mrs. W. Jarmon Evans a'u mab, Mrs. G. J. Parry, Mrs. Joseph Ellis, Arthur Ellis, Mrs. Robert Lloyd a'i merch Eunice ac E. Williams, o Oshkosh.
Gan J. Deiniol Jones.

Y Drych ~ Mawrth 21ain, 1918.


THOMAS R. BEAN. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Thomas R. Bean was buried yesterday at Bethesda Cemetery, following services at the home in the town of Utica at 1 o'clock and services at Bethesda church at 2 o'clock. Rev. G. J. Parry officiated.

The deceased was one of the oldest residents of this county, having lived here for about sixty-eight years. The bearers were : Benjamin Edwards, Jacob Davis, David Lloyd, George Bennett, Edward Parry and William Evans.

Among those attending the funeral were : Miss Sara M. Bean of Detroit City, Minnesota, Mr. and Mrs. W. O. Williams and Mrs. J. D. Williams of Wild Rose, Mr. and Mrs. W. J. Evans and son, Mrs. G. J. Parry, Mrs. Joseph Ellis, Arthur Ellis, Mrs. Robert Lloyd and daughter, Eunice and E. Williamsm all of this city.

The Oshkosh Northwestern ~ March 7th, 1918.