AMBROSE DAVIES. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

Gorchwyl anhawdd i mi yw ysgrifenu ychydig yn goffadwriaethol; eto o ddyledswydd ar adegau, rhaid gwneyd hyn.

Collasom ein brawd anwyl a ffyddlawn o'n plith, sef Ambrose Davies, yr hwn a fu yn dyoddef cystudd er's rhai blynyddau bellach; er ar adegau yn cael ychydig o help, ond daeth y diwedd.

Brawd o Sir Gaernarfon ydoedd, a daeth i'r wlad hon flynyddau yn ol fel llawer eraill, gan ymsymud ar hyd-ddi; ond cyn hir cyraeddodd y ddinas uchod, fel llawer Cymro arall, a deallodd yn bur fuan fod y ddinas yn gartref da i Gymro; ac yma yr arosodd hyd ddydd ei ymddatodiad. Yr oedd yn aelod ffyddlawn yn yr eglwys Gymraeg, ac yn ufudd ac ewyllysgar yn holl gangenau y gwaith da yn mhob cylch o hono. Yr oedd yn aelod o'r Christian Endeavor, a bu, os wyf yn cofio yn iawn, yn ysgrifenydd cymanfaol am rai tymorau. Yr oedd yn ei lawn yni gyda'r gangen hon o'r achos da, fel yn mhob man arall.

Saer coed oedd wrth ei alwedigaeth, yr hyn waith a wnai yn feistrolgar; bob amser gan ddechreu yn y pen dehau. Yr oedd bob amser yn ddyn. Yr ydym yn credu fod yr adnod hono yn ddarlun da o hono, "Yr hyn a ymaflo, dy law ynddo, gwna a'th holl egni" felly y gwrthrych uchod gyda phethau tymorol a materol. Hefyd, gyda phethau ysbrydol a thragwyddol. Ar o1 iddo roi ei law ar yr aradr, nid ydym yn credu iddo edrych llawer o'i hol, ond daliodd ei olwg ar yr Iesu, Pen Tywysog a Pherffeithydd ei ffydd: a chredwn ei fod heddyw wedi ei berffeithio.

Gadawodd i alaru ar ei ol, wraig ieuanc. yr hon a brofodd ei hun iddo yn ffyddlon yn ei waeledd, a'i anallu i helpu ei hun, yn ei gcfal tyner o hono a'i llafur medrus yn ei gynorthwyo yn ei waeledd a'i wendid, hvd ei ddiwedd. Yr Arglwydd a dalo iddi am ei thyner lafur tuag ato; hefyd llu o berthynasau; rhai yn mhell tu draw i'r dwr; rhai yn agos yn y ddinas; eraill mewn gwahanol ranau o'r wJad bon: a ffryndiau di-rif yn teimlo yn drwm. Heddwch i'w Iwch hyd ddydd yr aflgyfodiad diweddaf.
Gan Un am Dro.

Y Drych ~ Ionawr 2ail 1919.


AMBROSE DAVIES. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

Gyda gofid a hiraeth blin yr ydym yn cofnodi marwolaeth y brawd anwyl uchod. Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le yn ei gartref, ddydd Mercher, Rhagfyr lleg, 1918. Dechreuodd iechyd ein cyfaill anmharu bum mlynedd yn ol; a gwelai ei gydnabod, er eu gofid, flwyddyn ar ol blwyddyn, arwyddion digamsyniol fod ei ddaearol dy yn araf ddadfeilio. Er pob ymdrech ar ei ran ef ei hun, ac ar ran y meddygon goreu yn y wlad, gwaelu yn araf a wnaeth. Daeth y diwedd, a gollyngwyd yntau o'i gadwynau yn rhydd: ehedodd ei ysbryd pur at y Duw a'i rhoes ef, gyda ei fod wedi cyraedd 36 mlwydd o oedran.

Mab ydoedd i Daniel a Jane Davies, Hafod Vadog, Llanfairfechan, Gogledd Cymru. Wedi cyfranogi o fanteision addysgawl yr ardal, fe'i breintwaswyd i'r alwedigaeth o saer coed dan ei dad a'i frodyr. Dysgodd ei grefft yn drwyadl. Wedi dylyn ei alwedigaeth am rai blynyddau yn Nghymru, cododd ynddo awydd i deithio a gweled y byd, a bu am beth amser mewn cyfyng gyngor pa un ai i New Zealand ai i'r Talaethau Unedig y cyfeiriai ei gamrau. Yn y cyfwng hwn, talodd ei gefnder, Richard J. Williams, Minneapolis, ymweliad a'r hen gartref; a daeth Ambrose Davies ac yntau i gysylltiad a'u gilydd, ac nid hir y bu ein cyfaill, wedi y cyfarfyddiad hwn, cyn penderfynu yn ffafr yr America.

Hwyliodd y ddau, Awst, 1907. Gan faint ei awydd i brofi y wlad newydd, arosodd Ambrose Davies am ddeunaw mis yn ninas New York a'r cyffiniau, ac wedi'r prawf hwn, a phenderfynu o hono ymgartrefu yn y Talaethau, daeth yn ei flaen i ddinas Minneapolis, ac yma yr arosodd, gan gynyddu mewn ffafr gyda Duw a dynion hyd y diwedd. Anhawdd i ni, oedd yn gynefin iawn ag Ambrose Davies, ydyw sylweddoli ei fod wedi huno yn yr angeu. Daw y teimlad hwn atom i raddau mwy neu lai yn nglyn a marwolaeth pawb o'n cydnabod; ond daw gyda nerth ychwanegol yn yr amgylchiad presenol. Yr oedd ein brawd ymadawedig mor fyw! Bu farw yn gydmarol ieuanc; ond llanwodd y cyfnod a roddwyd iddo ar y ddaear a bywyd. Gellid cymwyso y gair "intense" ato ef yn ei bob peth.

Beth bynag yr ymaflai ei law ynddo, fe'i gwnai a'i holl egni. Ni wyddai Ambrose Davies beth oedd diogi. Derbyniodd ein brawd etifeddiaeth anllygredig gan ei rieni yn y ffurf o esiampl deilwng i'w hefelychu, a syniad uchel am grefydd Iesu Grist, ac ni ddarfu iddo yntau golli dim o'r etifeddiaeth ysbrydol hon yn ystod ei bererindod a'i grwydriadau yn y byd. Y gwir ydyw, fe ychwanegodd efe at y gwaddol gwerthfawr a roddwyd iddo ar y cychwyn. Yr oedd ei ddyddordeb mewn crefydd yn codi o'i argyhoeddiad o'i gwirionedd hi.

Mewn crefydd y daeth ef i'w deyrnas, ac i'w ryddid. Yr oedd crefydd yn naturiol iddo. Gweddiai fel efe ei hun. Yr oedd yn gweled sylweddau ysbrydol a'i olygon ei hunan. Meddyliai ar fywyd. Yn mysg ysgrifau a adawodd ar ei ol, daethpwyd o hyd i un ar y testyn: "Fel y dylem ni fod." Noda yn yr ysgrif nifer o gyferbyniadau. Dywed: "Dylem fod yn addfwyn heb fod yn llwfr; yn ddarbodus heb fod yn gybyddlyd; yn ostyngedig heb fod yn wasaidd. Dylem fod yn frwdfrydig heb fod yn benboeth; yn syml heb fod yn arwynebol; adi-wedda drwy ddwedyd: "Dylem fod fel yr Iesu - dyna berffeithrwydd."

Y deyrnged uwchaf o barch ac o werthfawrogiad i'w gymeriad allwn ni ddwyn ydyw dywedyd fod yr eglwys Gymreig yn Minneapolis, fel un gwr, yn hiraethu ar ei ol. Yr oedd yn ffyddlon yn yr holl dy. Anrhydeddodd yr eglwys ef drwy ei alw i arwain y canu cynulleidfaol am gyfnod. Bu yn ysgrifenydd Christian Endeavor y Dalaeth am bum blynedd, ac etholwyd ef flwyddyn yn ol yn drysorydd Cymdeithas y Dalaeth. Dysgwyliem lawer o wasanaeth oddiwrtho yn y dyfodol, ond siomwyd ni yn ddirfawr. "Ei ffordd sydd yn y mor, a'i lwybrau yn y dyfroedd dyfnion." "Nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi." Dywedwn ninau: "Gwneler Dy ewyllys."

Gwyddai pawb o honom fod Ambrose Davies yn barod i gyfarfod a'r cyfnewidiad mawr; gadawodd dystiolaeth ddi-amwys yn ein cydwybod ar hyn yma. Yn wir, yr oedd yn croesawu yr ymddatodiad. Yr unig ystyriaeth oedd yn gwneyd croesi i'r anweledig yn anhawdd iddo ydoedd gadael ei anwyl briod; a dyna yr elfen rwygau galon pob un o honom. Rhoddodd yr Arglwydd iddo gydmar bywyd delfrydol yn mherson Miss Catherine Williams, merch ieuanc rinweddol, a gair da iddi gan bawb, o Pennal, Sir Feirionydd. Gwahanodd angeu y ddeuddyn anwyl hyn yn mhen llai na dwy flynedd o fywyd priodasol. Gweinyddodd hi yn dyner, dyner arno ef yn ei gystudd; nid oedd un aberth yn ormod iddi, na'r un gwaith yn lludded iddi: llanwai ystafell y claf a sirioldeb hyd y gallodd, tra y gwyddem fod ei chalon yn tori o'i mewn. Cynorthwyid hi yn garedig gan wragedd ffyddlon Cymry Minneapolis. Duw fyddo yn amddiffyn iddi yn ei galar mawr.

Daeth cynulliad parchus o gydnabod ein diweddar gyfaill yn nghyd ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg, i dalu y gymwynas olaf iddo. Cynaliwyd y gwasanaeth yn y ty. Cymerwyd rhan gan y Parchn. Joshua T. Evans ac S. E. Prytherch. Cymerodd y gladdedigaeth le yn Lakewood Cemetery. Huna yn dawel fy mrawd! Ti gariaist groes drom yn ufudd iawn. Gorchfygaist gyda Duw! Fe erys dy goffadwriaeth yn fendigedig gyda ni, tan y cawn eto gyfarfod tu hwnt i'r llen!
S. E. Prytherch.

Y Drych ~ Ionawr 23ain 1919.