ANNA DAVIES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn un o ysbytai y ddinas, foreu Llun diweddaf, bu farw y chwaer, Miss Anna Davies, ar ol cyfnod hir o afiechyd.Yr oedd y chwaer wedi gwneyd ei chartref er's amryw flynyddoedd yn yr Old Ladies' Home ar Faxton Street.
Ganwyd hi ger y Bala, Gogledd Cymru, Awst 24ain, 1841, a'i rhieni oeddynt y diweddariad Owen Davies ac Ellen Roberts. Daeth i'r wlad hon 23 mlynedd yn ol, a bu am dymor yn aros yn New York cyn symud i Utica.
Yr oedd yn aelod o eglwys Bethesda.
Gedy mewn galar ar ei hol, un haner chwaer, Mrs. Robert Jones; chwaer-yn-nghyfraith, Mrs. Humphrey, yn nghyd a chyfnither yn Seattle, Washington, Mrs. Wm. R. Griffith. Cleddir heddyw (ddydd Mercher), y Parch. Lewis Williams yn gwasanaethu.