CARADOG EMRYS DAVIES. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Brydnawn dydd Gwener, Tachwedd 8fed, 1918, bu farw y brawd ieuanc, Emrys Davies, mab Mrs. Mary Davies, 620 Floyd Avenue, Rome, New York, ar ol dyoddef cystudd caled am wyth niwrnod.Ganwyd yr ymadawedig yn Penygarth, Blaenau Ffestiniog, Ionawr 9fed, 1899; efe oedd yr ieuengaf o ddeuddeg o blant.
Ar ol marwolaeth ei ddiweddar dad, David Davies, yr hwn oedd yn un o oruchwylwyr chwarelau Oakley, ymfudodd y teulu i'r wlad hon, a gwnaethant eu cartref yn Rome. Nid oedd Emrys ond bachgen ieuanc pan y daeth yma, ac er mwyn dod i ddeall dull y wlad, a chael rhagor o addysg, bu yn mynychu y Rome Free Academy am beth amser; ond cyn bod yn bymtheg oed, cafodd le yn swyddfa y Rome Brass and Copper, i fod yn negeseuwr. Ni fu yn hir gyda'r gwaith hwnw na welodd y swyddogion ei fod wedi ei dori allan i waith pwysicach, ac yr ydym yn deall pan y bu farw ei fod yn dal y swydd bwysig o assistant chief billing clerk, ac yn ol tystiolaeth Mr. Hazelton, y prif oruchwyliwr, yr oedd dyfodol dysglaer o'i flaen.
Yr Emrys Davies oedd yn fachgen ieuanc o gymeriad diameuol; yn ddarllenwr mawr, ac yr oedd yn meddu ar wybodaeth eang. Yr oedd yn aelod o eglwys y T. C., ac fel y dywedodd ei weinidog ar lan ei fedd, yr oedd Emrys bob amser yn dod i'r cyfarfodydd wedi parotoi ar gyfer y cyfryw.
Cafodd angladd parchus, a gweinyddwyd gan ei weinidog, Dr. R. T. Roberts. Yr oedd y blodau oedd yn gorchuddio ei arch yn brawf fod ei gyfeillion yn synio yn uchel o hono.
Gedy i alaru ar ei ol, ei fam, Mrs. Mary Davies, pedair o chwiorydd, a thri brawd: Mrs. John S. Jones a Mary Davies, Rome; Mrs. U'Larsing Williams, Alder Creek; Mrs. Harry Jennings, Utica; Edward Davies, Rome; John Davies, Llundain; a Cromwell Davies, sydd yn Ffrainc ac wedi bod yn brwydro gyda'r fyddin Brydeinig er dechreu y rhyfel, ac wedi dod allan yn ddianaf. Y mae hefyd wedi enill pedair o fedals am ei wroldeb ar wahanol adegau.
Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn eu profedigaeth lem.
Un oedd yn ei adnabod.