DAVID WALTER DAVIES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
Bu y Cymro adnabyddus, sef David Walter Davies, farw o ergyd o'r parlys, Hydref 24ain, yn 72 mlwydd oed. Bu farw yn Wilkes-Barre yn nhy ei hen gyfaill, Griffith Williams, yr hwn a fu yn ofalus iawn ohono yn ei saldra diweddaf, a gwnaeth bob peth trosto oedd yn bosibl, ond yr oedd y saeth wedi ei daraw mor drwm nad oedd gobaith gwellhad iddo. Claddwyd ei weddillion yn Wilkes-Barre.Mab ydoedd yr ymadawedig i Walter a Jane Davies, masnachwr yn Blaenau Ffestiniog, a daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1889 o Ffestiniog, gan ymsefydlu yn New York. Bu ar Wards Island fel gofalydd o'r bobl oedd wedi colli eu synwyrau, a bu yn ffortunus iawn yn ei waith am flynyddoedd. Bu fel gofalydd am ddwy flynedd ar bymtheg yn y Deaf and Dumb Institute, ac yr oedd wedi dysgu siarad a'r rhai oedd tan ei ofal, ac yr oedd yn barchus iawn gan bawb.
Tua blwyddyn a haner yn ol ymddiswyddodd o herwydd ei iechyd, ac mewn ysbaid aeth i Wilkes-Barre. Yr oeddwn yn reit adnabyddus ag ef. Yr oedd yn ddyn dyddorol iawn i fod yn ei gwmni a gwrandaw arno yn dweyd hanesion pethau oedd wedi bod dan ei sylw yn gofalu am y rhai anffortunus o dan ei ofal. Yr oedd yn ddyn uniawn ei ffordd ym mhob ystyr. Cofus genyf glywed ffrind yn gofyn iddo, "Wel Mr. Davies, yr ydych yn edrych yn dda iawn; sut yr ydych yn esbonio eich bod yn edrych mor dda?" "Wel," meddai, "wedi bod yn dda wrth fy nhad a mam ydwyf, ac yn wir, yr oedd wedi bod yn dda wrth bawb a ddaeth i gyffyrddiad ag ef.
Heddwch i'w lwch.
Efrogydd.
Y Drych ~ Tachwedd 14eg, 1918.
DAVID WALTER DAVIES. HANOVER, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.
MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. DAVID WALTER DAVIES.
Tachwedd 13eg, 1918. Yn nghartref Mr. a Mrs. Griffith Williams, 51 Culp Street, Wilkes-Barre, bu farw Mr. David Walter Davies.Ganwyd ef yn Ffestiniog tua deg a thriugain o flynyddau yn ol, yn fab i Mr. a Mrs. Walter Davies, y rhai sydd wedi eu claddu ers llawer blwyddyn. Cafodd Mr. Davies addysg dda yn moreu ei oes, fel y deallwn. Bu yn Lerpwl mewn ysgol am beth amser, ac wedi hyny aeth i'r hen ardal i weithio yn masnachdy ei dad.
Wyth mlynedd ar hugain yn ol, daeth i'r wald hon, gan ymsefydlu yn Efrog Newydd. Ei waith cyntaf yno oedd edrych ar ol y nwyddau a gludid i'r wlad hon ac a gymerid oddiyma, a gwyliwr ar lan y dwfr, felly yn gyflogedig gan gwmni llinell y Seren Wen. Wedi hyny bu yn gweinyddu mewn ysbyty yn yr un ddinas, ac yn ddiweddaf treuliodd ddwy flynedd-ar- bymtheg fel gweinyddwr yn sefydliad y mus a'r byddar. Yr oedd yn ofalus gyda'i waith, ac yn cael mawr barch gan ei gyflogwyr. Gellid ymddiried iddo heb ofn iddo fradychu un ymddiriedaeth.
Cymeriad prydferth iawn oedd Mr. Davies a mawr hoffid ef gan gydnabod, ac yr oeddynt yn lluosog iawn. Bu yn barod ei gymwynas lawer tro, ei brofiad helaeth a'i ysgrifell fedrus yn y ddwy iaith yn gymorth i Gymru tua dinas Efrog Newydd. Cymro trwyadl ydoedd, ac ymhyfrydai mewn pob peth Cymraeg - mewn pregethu, areithio, canu a gweddio yn Gymraeg.
Cwmniwr dyddan ydoedd hefyd; yn hoff iawn o ystori ddigrif, pa un bynag ai llefarwr ai wrandawyr fyddai. Ni fu erioed y briod. Ni wnaeth ei gartref yn yr ystur o briodi, ond bu pawb yn garedig iawn iddo ar hyd ei fywyd, fel y tystiai unwaith. Ychydig gyda blwyddyn yn ol, daeth i Wilkes-Barre i aros, a bu yma ddwywaith o'r blaen, a theimlai mor gartrefol y prydiau hyny fel y penderfynodd symyd yma i fyw hyd derfyn y rhyfel.
Ymaelododd gyda'r saint yn yr eglwys Gymulleidfaol at Hill Side Street, a bu yn aelod ffyddlon hyd y diwedd. Hoffai holl wasanaeth y ty. Yr oedd yn ddyn wrth ei fodd yn nghynulliadau pobl yr Arglwydd. Yn yr Ysgol Sul fodd bynag, y ceid mwyaf ganddo. Amlwg ydoedd iddo dreulio llawer o amser gyda'i Feibl a llenyddiaeth dduwinyddol. Byddai ynfedrus gyda gofyn ac ateb cwestiynau. Ceid ei fod yn dyn mewn dadl, eto yn deg a boneddigaidd. Bydd colled ar ei ol mewn llawer cylch, ac yn yr Ysgol Sul yn anad un.
Tarawyd ef yn sydyn ag ergyd o'r parlys ar un o Suliau poethion Awst, pan yn myned o dy cyfaill i'w gartref. Bu yn gorwedd am ychydig ddyddiau, ond teimlai fod ei nerth wedi ei ostwng a'i babell gref gadarn yn siglo drwyddi. Cyn hir cafodd ergyd arall, ergyd a brofodd yn angeuol iddo ymhen ychydig ddyddiau.
Bu Mr. a Mrs. Williamsyn ffyddlawn a charedig iddo drwy ei gystudd, ac y mae hiraeth mawr arnynt ar ei ol. Bu farw yn dawel fel plentyn bach yn mreichiau cwsg. Yr oedd wedi bwriadu myned yn ol i Gymru ar ol y rhyfel, gan wneud ei gartref yn Trawfynydd, ond yn lle myned dros y mor i Drawsfynydd, aeth dros yn afon i orphwysfa'r saint ar y pedwerydd ar hugain o Hydref.
Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent Hanover Green. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. R. R. Davies a'r ysgrifenydd, ac wrth y bedd gan yr ysgrifenydd. Yr elorgludwyr oeddynt : John M. Jones, Reese Meredith, Daniel Jones, Evan Roberts, Naphtali Roberts, William Owen.
Gadawodd Mr. Davies amryw o berthynasau ar ei ol, a'r rhai agosaf ydynt : Mrs. Walters, chwaer o Quincy, Massachusetts, (yr oedd hi yn yr angladd); merch i'w chwaer yn Efrog Newydd; brawd yn Awstralia; brawd yn Lerpwl a chwaer yn Ffestiniog. Nodded Duw drostynt oll.
J. M. Pritchard.