EMYR WIGLEY DAVIES. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
DAMWAIN OFIDUS.
Marwolaeth Annysgwyliadwy Emyr Wigley Davies. Sydyn a brawychus iawn ydoedd marwolaeth y cyfaill ieuanc uchod. Fel y crybwyllwyd eisoes, cyfarfyddodd a'i ddiwedd pan allan gyda'i frawd a chyfeillion, trwy i'r moto ag oedd yn yru "skidio" a'u taflu dros y dibyn. Disgynodd Emyr ar ei ben, a chafodd y fath ysgytiad i'r ymenydd fel na fu yn ymwybodol ar ol y ddamwain, ac er pob gofal meddygol bu farw ychydig yn ddiweddarach yn yr ysbyty yn Utica.Ganwyd Emyr Wigley Davies yn Pwllheli, Gogledd Cymru, ddeunaw mlynedd yn ol, efe yn fab i Caradog a Jane Wigley Davies, y ddau o ardal Pennant, Llanbrynmair, Gogledd Cymru, a'r fam yn un o deulu lluosog y Wigleys, o ba rai y mae llawer yn y Gorllewin a manau eraill o'r wlad.
Ymfudodd y teulu i'r wlad hon chwe blynedd yn ol, gan sefydlu yn Paine's Hollow. Wedi hyny, buont yn byw am dymor yn Oriskany, lle y derbyniwyd Emyr yn aelod o eglwys y M. C. Ddwy flynedd a haner yn ol, symudasant ar fferm Pratt Smith, Deerfield, lle y maent yn amaethu yn llwyddianus. Yr oedd yr ymadawedig yn gyflogedig fel book keeper yn y Citizens Trust Company, Utica, a thrwy ei ddiwydrwydd a'i sirioldeb yr oedd wedi codi i safle o ymddiried, a gair da iddo gan y swyddogion, y rhai a wnaethant bob peth yn eu gallu i gynorthwyo y teulu yn eu trallod. Er arwydd o barch iddo, y mae ei ddesc yn yr ariandy wedi ei harwisgo mewn du am 30 niwrnod.
Yr oedd Emyr yn fachgen ufudd i'w rieni, yn gydymaith siriol i'w frawd, ac yn gyfaill pur i'w chwiorydd bach, a theimlent ei golled yn fawr iawn. I'w gyfoedion yr oedd ganddo wen siriol bob amser, a chollwyd llawer deigryn ar ei ol. Bydded i'r haul lewyrchu unwaith eto trwy y cymylau tew sydd yn gordoi y teulu. Y dydd Mercher dylynol, cynaliwyd gwasanaeth angladdol yn nghapel Moriah, lle yr oedd yn aelod, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. R. T. Roberts, Rome, a W. R. Williams, Utica. Arweiniwyd y canu gan Tom Jenkins, a chanwyd solo swynol gan A. Henderson Jones. Yr archgludwyr oeddynt dri o gydweithwyr o'r banc, a thri chyfaill o'r eglwys. Claddwyd ei weddillion yn llanerch y teulu yn nghladdfa Forest Hill.
Bydded i'r blodau dyfu yn iraidd, a'r adar man delori eu galargan uwch man ei fedd.
E. C. G.