LEWIS H. DAVIES. UTICA. ONEIDA COUNTY. NEW YORK.
Foreu Iau, Rhagfyr 12fed, 1918, cyraeddodd y newydd trist ni fod y cyfaill mwyn Lewis H. Davies 236 Mary Street, wedi ymadael a'r fuchedd hon. Cymerodd ei ysbryd ei aden am tua 5:30 y boreu. Teimlai yn lled dda y nos gynt, er mai ychydig o obaith ers mis oedd y byddai iddo wella byth o'i anhwylder. Tystiai ei fod yn well, ond yn ystod oriau y boreu daeth i deimlo fod ei amser yn dyrwyn i ben, a mynegodd ei brofiad i Mrs. Davies, mai ofer oedd dysgwyl gwellhad, a rhoes ei hun i fyny yn ostyngedig i ewyllys yr Arglwydd. Bu yn nychu yn hir am yn agos i dair mlynedd, a dyoddefodd ei gystudd maith yn amyneddgar, a bob amser yn mwynhau hen gyfeillion a ymwelai ag ef.Bu Mrs. Davies a Gladys, y ferch, yn nyrs raddedig ei hun, yn ofalus a thyner o hono, a gwnaethant yr oll allent drosto. Ganwyd Mr. Davies yn Ratgoed, Corris, Gogledd Cymru, Gorphenaf 26ain, 1859, yn fab i'r diweddar David H., ac Ellen Davies. Tua 35 mlynedd yn ol, daeth i'r wlad hon, yn gyntaf i Utica am dymor byr, o'r hwn le yr aeth i Rockland, Quebec, Canada, lle yr arosodd am naw mlynedd. Oddiyno aeth i Slatington, Pennsylvania, lle y bu yn arolygu chwarel lechi, ac y bu yn trigo yno am 10 mlynedd, a daeth yn ol i Utica yn 1909, lle y treuliodd y gweddill o'i ddyddiau. Am beth amser bu yn cynrychioli rhai o chwareli Pennsylvania, ac yn werthwr llechi yn Utica. Wedi hyn bu yn ngwasanaeth y Citizens Trust Company, Utica.
Tua 32 mlynedd yn ol ymbriododd ag Ann D. Jones, Danville, Quebec, yr hon a adewir gyda mab, David, a merch Gladys. Tua thair blynedd yn ol cafodd anwyd, yr hyn a drodd yn gryd-cymylau, a gwaethygodd nes iddo droi yn anhwyldeb parhaus. Gobeithiai o hyd y gwelai, a theimlai ar brydiau fel pe yn cael tro ar ei anhwyldeb, ond gwaethygu oedd o fis i fis hyd i'r diwedd ddod. Teimla ei hen gyfeillion yn ddrwg o'i golli, a daeth y newydd iddynt fel saeth. Gwelsom ef yn ddyn golygus, iach, llawen a siriol, a thrist oedd genym ei weled ar ol ei hir gystudd wedi ei newid yn fawr.
Cydymdeimlir yn ddwys a Mrs. Davies a Gladys, a dysgwyliant bob dydd am ddychweliad y mab o Ffrainc, lle y mae er's tro gyda chorfflu y Motor Engineers. Awyddai ei dad am ei weled yn dod bob dydd; ond ni chafodd y fraint o weled ei wyneb. Bydd dyfodiad David yn gymorth mawr i gysuro'r ddwy yn eu hamddifadrwydd a'u hiraeth ar ol y priod a'r tad. Y tro diweddaf y clywyd oddiwrtho oedd o Paris, tua phythefnos yn ol. Heblaw David H., y mab, a Gladys y ferch, graddedig o St. Luke's Hospital, gedy hefyd chwaer, Elizabeth Morgan yn Nghymru.
Yr oedd Mr. Davies yn aelod o Gymdeithas y Coedwigwyr (Foresters) er's 32 o flynyddau, ac o eglwys Bethesda (A.), Utica.