MARGARET DAVIES. DENVER, COLORADO.
Mae genym yn bresenol y gorchwyl galarus o gofnodi marwolaeth Mrs. Margaret Davies, priod Joseph Davies, yr hwn a adwaenir yn gyffredin wrth ei ffugenw "Rheinallt." Mae cydymdeimlad dwys yr eglwys a'r frawdoliaeth Gymreig yn eiddo i'r teulu trallodus a'r ymadawiad y diweddar Mr. Davies fel mam dyner a gofalus a phriod ymdrechgar a ffyddlawn yn nglyn a dyledswyddau teuluol a mawr sel dros yr achos crefyddol yn y lle.Yr oedd Mrs. Davies wedi dyoddef cystudd am gryn amser, a gwnawd pob ymdrech er gwellhad, ond daeth y diwedd foreu Sul, Mehefin 2ail; yr un dydd a marwolaeth Morris H. Parry, fel yr oedd cyhoeddi y ddwy angladd i fod yn y capel y dydd Mercher a dydd Iau canlynol yn peri prudd-der i bawb oedd yn adnabod y ddau aelod o'r capel yn marw yr un dydd!
Yr oedd angladd Mrs. Davies ddydd Mercher, ac eiddo Morris H. Parry ddydd Iau, a'r gladdedigaeth yn Fairmount Cemetery, dan drefniant Mr. Miller, a'r Parch. John Williams yn gweinyddu ar y ddau achlysur.
O'r dydd y daeth Joseph Davies a'r teulu i Denver, 15 mlynedd yn ol, bu Mrs. Davies a'i holl egni yn ofalus i hyfforddi y plant a'u tywys ar lwybrau rhinwedd a daioni, yn enwedig mewn egwyddorion crefyddol ac addysgiadol, fel y maent heddyw mewn swyddau cyfrifol ac enillfawr: Miss Mamie gyda'r Summit Coal Company; Miss Jennie gyda'r Western Union Telegraph Company; Benjamin yn argraffydd, ac Alice fach yn parhau yn yr ysgol. Nid yn fynych y ceir plant yr un teulu mor dalentog. Yr oeddynt yn llafurus a chynorthwyol bob amser yn yr Ysgol Sul, y cyfarfodydd llenyddol a'r Eisteddfod, tra yr oedd eu rhieni yn eu blaenori mewn traethodau a barddoniaeth.
Pobl o Bethesda, Arfon, oedd Mr. a Mrs. Davies, ond mai yn Oshkosh, Wisconsin, y priodasant, a dyfod i Denver ddwy flynedd ar ol hyny; lle yr oedd Robert H. Davies, yr unig frawd, yma ar y pryd, ac yn parhau yn adnabyddus yn y gelfyddyd deilwraidd ac yn un o'r adroddwyr goreu a feddwn.
Enw morwynig Mrs. Davies oedd Margaret Evans, Cae Chwarel, Llanllechid, Bethesda, Arfon. Yr oedd yn gydmarol ieuanc yn gadael lluaws o'i chyfeillesau perthynol i gymdeithas y Dorcas, yn mhlith y rhai yr oedd yn gariadus a pharchus, a diau y gwelir colled amlwg ar ei hoi er y bydd ei hymadawiad yn enill iddi hi.
Oddiwrth Lewis Brycheiniog.