PRIVATE OWEN DAVIES. NEW YORK MILLS, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Daeth y newydd galarus o faes y frwydr yn Ffrainc fod Private Owen Davies o'r ardal hon wedi ei ladd ar y 19eg o'r mis diweddaf, ac yn fab i Mr. a Mrs. John Davies. Main Street.Daeth i'r wlad hon tua 14 mlynedd yn ol o ardal Cwmyglo. Arfon, gan sefydlu yn yr ardal hyd ei ymadawiad i Ffrainc. Mae dau eto yn y fyddin, sef Hugh a Griffith, yr ochr yma heb ymadael am Ffrainc. Mae yma gydymdeimlad mawr a'r teulu.
Pasiodd yr eglwys yn nghyd a'r Gymdeithas Ymdrechol gydymdeimlad dyfnaf a'r teulu yn ei galar. Heblaw y tad a'r fam mae yn aros gartref un brawd. sef Ifor Davies.; Mrs. Richard Edwards. Yorkville, a Mrs. Robert Jones. Utica.
Mae yn dda genyf allu dweyd fod Mr. a Mrs. Davies wedi dal y newydd yn lled dda.
Y Drych ~ Awst 8fed, 1918.
OWEN DAVIES. NEW YORK MILLS, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Private Owen Davies, mab Mr. a Mrs. John Davies, New York Mills, yr hwn a fu farw o'i glwyfau yn Ffrainc. Gorphenaf 19eg, ar ol un o'r brwydrau yno. Yr oedd yn aelod o'r fyddin Americanaidd.Ganwyd ef yn Tanygraig. Cwmyglo. sir Gaernarfon. Gorphenaf 23ain 1889, ac efe oedd y Cymro cyntaf o gylchoedd Utica perthynol i'r fyddin Americanaidd a gollodd ei fywyd yn ymladd dros ryddid.