ELLEN LLOYD EDWARDS. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Nos Sul, Hydref 20fed, yn ei chartref 215 Central Avenue, y ddinas hon, bu farw yn bur sydyn Mrs. Ellen Edwards, gweddw y diweddar Robert Edwards, Berlin, Wisconsin.

Ganwyd yr ymadawedig yn Bettws Gwerfyl Goch, ger Corwen, Gogledd Cymru, Chwefror 3ydd, 1842. Ymfudodd gyda'i rhieni, Cadwaladr a Ruth Lloyd, yn nghyd a thair chwaer a brawd pan ydoedd ond geneth ieuanc, 10 mlwydd oed, gan ymgartrefu yn y rhan ogleddol i'r ddinas hon; ond yn ddiweddarach symudasant i sefydliad Cymreig Utica, Wisconsin.

Ymbriododd yr ymadawedig a Robert Edwards Ionawr, 1866, gan wneyd eu cartref ar fferm, eiddo y gwr, hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Chwefror, 1885. Mis Medi o'r un flwyddyn, symudodd Mrs. Edwards yn nghyd a'i merch, Mrs. W. N. Jones, yn awr i'r ddinas hon. Oddeutu blwyddyn yn ol, clafychodd yr ymadawedig gan anhwylder y nerves, ond gwellhaodd yn llwyr oddiwrth y gwaeledd hwnw. Er hyny, daeth awr ei hymddatodiad yn hollol annysgwyliadwy er braw i'r teulu a'i lluaws gyfeillon.

Yr oedd yn aelod ffyddlawn, diymhongar a gweithgar yn Salem, eglwys y T. C. Cymreig, a gellir dweyd i'r eglwys yn nghyd a'r gwahanol gymdeithasau cysylltiedig a hi, gael eu hamddifadu o un o'r aelodau mwyaf brwdfrydig gyda holl symudiadau hyrwyddol yr achos - yn barod a llaw agored i estyn ei chynorthwy at bob achos teilwng.

Bu farw fel y bu fyw yn dawel ei hysbryd; ac ehedodd ei henaid dysglaer, megys "ysgafn o yd yn ei amser" i'r trigfanau yr oedd ei bywyd glan tra yma yn profi yn wir amlwg mai "gwlad well oedd yn ei chwenych." Mae yn aros i alaru ar ol un oedd anwyl gan bawb oedd yn ei hadnabod, heblaw ei hunig ferch, a'i mab-yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. W. N. Jones; ddau frawd, David a Robert Lloyd a'u teuluoedd. Gan fod gwaharddiad rhag cynal angladdau cyhoeddus, oblegid yr afiechyd heintus ag sydd yn cyniwair trwy ein gwlad y dyddiau hyn, rhaid oedd wrth anglad breifat. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. G. J. Parry, gweinidog eglwys Salem. Hebryngwyd ei rhan farwol i gladdfa Berlin, Wisconsin, i orphwys wrth ochr ei diweddar briod hyd wawr y boreu olaf pryd y ca adgyfodiad gwell gan esgyn i

"Lan gynteddoedd ei Harglwydd
Y nefol baradwys i fyw."

Dyddiau tywyll a niwlog yw y rhai hyn yn y ddinas hon fel pob dinas arall trwy y wlad eang ag yr ydym yn byw ynddi, - gan fod y clefyd heintus (Spanish influenza) yn archolli teuluoedd gyda chyflymder y naill ddydd ar ol y llall, fel nad oes i'w glywed ond galar ar bob llaw — pob cynulliad cyhoeddus yn waharddedig: yr eglwysi a'r ysgolion a phob cynulliad arall yn gwbl waharddedig, fel mai priodol y dyddiau hyn yw geiriau y proffwvd: "Ystyriwch y wialen a phwy a'i hordeiniodd."

Er i ran helaeth o boblogaeth y ddinas hon fod o darddiad Ellmynaidd, gellir er hyny ddwyn tystiolaeth i ddinas Oshkosh fod yn wir flaenllaw gyda'i chyfraniadau a'i pharodrwydd i gynorthwyo gyda phob achos teilwng, megys y Liberty Bonds, y Red Cross, a.y., fel ag i fod ar ben y rhestr bob tro. Ffaith arall i brofi eu hymlyniad i lwyddiant ein llywodraeth yn yr ymgyrch ofnadwy bresenol, aeth rhai o'r ffyddloniaid oddi amgylch gyda phaent melyn gan liwio tai a meddianau y slackers er eu dinoethi i'r cyhoedd. Well done, boys; dangoswch eich lliwiau, gan ymladd dros wir ryddid, a dymchwelyd y giwaid filwriaethus oddiar eu gorseddfeinciau, a hyny gyda brys.
Gan J. Deiniol Jones.

Y Drych ~ Tachwedd 7fed, 1918.


ELLEN LLOYD EDWARDS. OSHKOSH, WINNEBEGO COUNTY, WISCONSIN.

Mrs. Ellen Edwards, widow of Robert Edwards died Sunday night at her home 215 Central Avenue.

She was born in Wales, February 3, 1842, coming to America while she was still a young girl. In 1866 she was married to Mr. Edwards, after he had returned from the Civil War. They resided at Berlin, Wisconsin, until the time of his death in 1885, when Mrs. Edwards and her family moved to this city.

She is survived by one daughter, Mrs. W. N. Jones, and two brothers, D. N. Lloyd and R. C. Lloyd, all of this city.

The funeral will take place in private at 11 o'clock Wednesday from the home with Rev. G. J. Parry of the Welsh Presbyterian church officiating. Internment will take place at Berlin, the funeral party proceeding there by automobiles.

Daily North Western Oshkosh ~ October 21st, 1918.