ROBERT EDWARDS. PEN ARGYL, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth ein cyfaill a'r brawd ieuanc, Robert Edwards, Pen Argyl, Pennsylvania, o'r clefyd, y pneumonia, yn yr oedran cynar o 36 mlwydd.Ganwyd yr ymadawedig yn Hen Barc, Bethesda, Arfon. Ymfudodd gyda ei rieni, Robert a Catherine Edwards, 30 mlynedd yn ol i Chapman, Pennsylvania. Oddeutu 20 mlynedd yn ol symudodd y teulu i Pen Argyl, Pennsylvania. Yr oedd ein brawd ieuanc wedi gwneyd iddo ei hun lu o gyfeillion cynes.
Gedy mewn galar ei briod, tair chwaer a'i fam, Mrs. Joseph Hiller, Pen Argyl; Mrs. Samuel Buckill, Sharon, Ohio: Mrs. David Williams, Gwalia House. New York City, a Mrs. Catherine Edwards.
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod o eglwys yr M. E.. cyfrinfau y Red Men a'r Odd Fellows.
Claddwyd y gweddillion ddydd Gwener, y 25ain o Hydref, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. William H. Powick. D. D. Ydyw, R. J. H., y mae yn chwith gweled yr hen gyfeillion yn myned y naill ar ol y llall. Derbynied ei anwyl fam ein cydymdeimlad, a'r teulu oll.
Richard Thomas.