GRIFFITH ELLIS. CEDAR RAPIDS, IOWA.
Tachwedd 17eg, 1918, yn Elwood City, Pennsylvania, bu farw Mr. Griffith Ellis, gynt o Ogledd Cvmru. ac yn enedigol o Dolgellau.Ar adeg y Boer War, ymunodd a'r fyddin a daeth trwy y rhyfel heb niwed, a phan ddychwelodd i Gymru, priododd a Miss Kate Rawson, o'r Royal Oak Hotel, Penrhyndeudraeth.
Yn y flwyddyn 1896, ymfudodd ef a'i wraig a'r plant i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Iowa City. Iowa, ac oddiyno symudasant, yn 1913, i Cedar Rapids, yn yr un dalaeth. Rai misoedd yn ol, daeth Mr. Ellis i weithio yn Elwood City, lle y bu farw yn ddisymwth, gan adael i alaru ar ei ol, weddw a phump o blant, yr ieuengaf tua saith mlwydd oed.
Claddwyd ef yn Cedar Rapids, a gweinyddwyd gan y Parch. R. I. Campbell, Rheithor eglwys Esgobaethol y lle. Bydded i'r Arglwydd ofalu am ei wraig a'i blant amddifaid a adawyd ar ol.
W. D. W.